Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
Pam ymuno â Rhwydwaith DIAW?
Mae Rhwydwaith DIAW yn darparu tystiolaeth o arfer gorau ac enghreifftiau o’r hyn a gyflawnir ledled Cymru drwy weithgareddau cynhwysiant digidol. Mae hyn yn gymorth i greu’r symudiad a’r momentwm ar lawr gwlad sydd eu hangen i ddod â chynhwysiant digidol i’r blaen o ran trafodaethau polisi a strategaeth.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol ar gyfer Rhwydwaith a Grŵp Llywio DIAW gan ddarparu cyfle i rannu gwybodaeth, gwneud cysylltiadau newydd o bob rhan o Gymru, ymgysylltu gyda’n gilydd ac adrodd yn ôl ar ffocws presennol gweithredu DIAW a phenderfyniadau ar gyfer y dyfodol. Rhwng cyfarfodydd, daw cyfathrebiadau cyson ynglŷn â chynhwysiant digidol oddi wrth Gydlynydd DIAW ac aelodau eraill o’r Rhwydwaith a bydd enw eich sefydliad hefyd yn cael ei arddangos fel aelod o’r Rhwydwaith ar dudalen we DIAW.
Os oes gan eich sefydliad syniadau gwych neu brofiad o wella cynhwysiant digidol neu eisiau dysgu beth mae eraill yn ei wneud, beth am ymuno â ni? Bydden ni wrth ein boddau’n glywed oddi wrthych chi!
Er mwyn ymuno â’r Rhwydwaith, yn gyntaf rhaid i sefydliadau ymuno â Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru er mwyn dangos eu hymrwymiad i’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae’r Cylch Gorchwyl yn cynnwys rhagor o fanylion am y Rhwydwaith a’r ymrwymiad y byddech chi’n ei wneud.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am DIAW, dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu anfonwch e-bost atom diaw@cwmpas.coop.