Neidiwch i’r prif gynnwys

Hysbysiad preifatrwydd

Hysbysiad preifatrwydd data ar gyfer cleientiaid, hyfforddeion, gwirfoddolwyr a'r rheiny sy'n mynychu digwyddiadau Cymunedau Digidol Cymru

Eich data personol – beth ydynt?

Ystyr data personol yw unrhyw ddata sy’n galluogi i unigolyn byw gael ei adnabod. Mae’r gwaith o brosesu data (casglu, storio, defnyddio, newid, rhannu neu ddinistrio gwybodaeth bersonol) yn cael ei lywodraethu gan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016/679 (a elwir yn GDPR).

Pwy ydym ni?

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflawnir gan Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Cymru Cyf (sy’n masnachu o dan yr enw Canolfan Cydweithredol Cymru).

Yn achos data personol sy’n gysylltiedig â chanlyniadau prosiectau, Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data. Mae hyn yn golygu ei bod yn penderfynu sut y mae eich data personol yn cael eu prosesu, ac i ba ddibenion. I’r dibenion hyn, Canolfan Cydweithredol Cymru yw’r Prosesydd Data.

Yn achos data personol sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiectau, Canolfan Cydweithredol Cymru yw’r Rheolydd Data. Mae hyn yn golygu ei bod yn penderfynu sut y mae eich data personol yn cael eu prosesu, ac i ba ddibenion.

Sut yr ydym yn prosesu eich data personol?

Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan y GDPR trwy sicrhau bod data personol yn gyfredol; trwy eu storio a’u dinistrio mewn modd diogel; trwy beidio â chasglu neu gadw gormodedd o ddata; trwy ddiogelu data personol rhag cael eu colli, eu camddefnyddio, eu cyrchu heb ganiatâd a’u datgelu, a thrwy sicrhau bod mesurau technegol priodol ar waith i ddiogelu data personol.

Defnyddir eich data personol i’r dibenion canlynol:

  • Darparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym
  • Monitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau, ynghyd â nifer y bobl o grwpiau gwahanol sy’n cael eu cefnogi
  • Cyflawni gofynion cyllidwyr ein prosiectau o ran adrodd
  • Gwerthuso effaith gwasanaethau ar yr unigolion a’r mentrau a gymerodd ran
  • I ddibenion archwilio a gwirio
  • Rhoi gwybod i chi am wasanaethau, gweithgareddau neu ddigwyddiadau tebyg (yn unol â’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig)

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?

Mae Llywodraeth Cymru yn prosesu eich data er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd – yn yr achos hwn, i gefnogi unigolion i ymgysylltu â thechnoleg a meithrin eu sgiliau digidol sylfaenol.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gwneud gwaith prosesu gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract sydd gennym gyda chi i ddarparu gwasanaeth, neu i gymryd camau i ymrwymo i gontract gyda chi.

Mae prosesu hefyd yn angenrheidiol er buddiant dilys y ddau sefydliad, fel y gallwn fonitro a gwerthuso ein gwasanaethau a rhoi gwybod i chi am wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau tebyg.

Mae darparu eich data yn ofyniad contractiol – hebddynt, ni allwn ddarparu’r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano gennym.

Rhannu eich data personol

Bydd eich data personol yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddant yn cael eu rhannu ond â’r canlynol:

  • Trydydd partïon sy’n gweithredu ar ein rhan ac sy’n ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth
  • Trydydd partïon sy’n gweithredu ar ein rhan ac sy’n ein helpu i werthuso’r gwasanaeth
  • Trydydd partïon sydd wedi ein comisiynu i ddarparu gwasanaethau cynhwysiant digidol i chi
  • Cwmnïau postio trydydd partïon

Mae’n ofynnol yn gontractiol i drydydd partïon ddiogelu eich data a chydymffurfio â’r GDPR.

Sut yr ydym yn cadw eich data personol?

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu am ba hyd y mae’n rhaid i ni gadw eich data. Ni chaiff eich data eu cadw am gyfnod hwy nag sydd ei angen yn achos unrhyw gŵynion, hawliadau cyfreithiol neu ymholiadau archwilio. Yn achos Cymunedau Digidol Cymru, cedwir eich data tan fis Rhagfyr 2022.

Eich hawliau a’ch data personol

Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

  • Yr hawl i ofyn am gopi o’ch data personol y mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn eu cadw amdanoch;
  • Yr hawl i ofyn i Lywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru gywiro unrhyw ddata personol os canfyddir eu bod yn anghywir neu wedi dyddio;
  • Yr hawl i ofyn am i’ch data personol gael eu dileu lle nad yw’n angenrheidiol mwyach i Lywodraeth Cymru na Chanolfan Cydweithredol Cymru gadw data o’r fath;
  • Yr hawl i ofyn i Lywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru ddarparu eich data personol ar eich cyfer a, lle bo hynny’n bosibl, drosglwyddo’r data hynny yn uniongyrchol i reolydd data arall;
  • Yr hawl i ofyn am gyfyngiad ar unrhyw waith prosesu pellach pan fo yna anghytuno mewn perthynas â chywirdeb eich data personol neu’r gwaith prosesu a wneir arnynt;
  • Yr hawl i wrthwynebu’r gwaith o brosesu eich data personol;
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Trosglwyddo Data Dramor

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich data yn aros yn y DU, neu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) y cydnabyddir yng nghyfraith y DU bod ganddi fesurau diogelu digonol ar gyfer eich hawliau diogelu data.

Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wledydd y tu allan i’r AEE neu i sefydliad rhyngwladol. Pan fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y data’n ddiogel.

Pan fydd sefydliadau neu lwyfannau rydym yn cydweithio â nhw yn gweithredu’n fyd-eang neu’n defnyddio gwasanaethau y tu allan i’r DU, byddwn yn cymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod mesurau diogelu fel penderfyniad digonolrwydd y DU, neu gymalau contract enghreifftiol ar waith i ddiogelu data personol.

Gwneud Penderfyniadau Awtomatig

Nid ydym yn gwneud penderfyniadau awtomatig gyda’ch data personol.

Prosesu pellach

Os byddwn yn dymuno defnyddio eich data personol i ddiben newydd, nas cwmpasir gan yr Hysbysiad Diogelu Data hwn, yna byddwn yn anfon hysbysiad newydd atoch yn egluro’r defnydd newydd hwn cyn i ni ddechrau ar y gwaith prosesu, ac yn nodi’r dibenion perthnasol a’r amodau prosesu. Byddwn yn gofyn ymlaen llaw am eich cydsyniad i wneud y gwaith prosesu newydd lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen.

Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn ei dal, ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Yr Uned Cynhwysiant Digidol, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ

E-bost: digitalinclusionmailbox@gov.wales

Y Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@gov.wales

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Cydweithredol Cymru, Y Borth, 13 Ffordd Beddau ,Caerffili, CF83 2AX

E-bost: info@wales.coop

Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ffonio 0303 123 1113 neu trwy e-bost https://ico.org.uk/global/contact-us/email/ neu yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.