Cysylltu â ni
Fe hoffem glywed gennych chi!
Mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg, ac rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon gyfartal yn y ddwy iaith.
Ffôn: 0300 111 5050
Twitter: @DC_Wales
Cyfeiriad: Y Borth, 13 Beddau Way, Caerffili, CF83 2AX
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru a ddarperir gan Cwmpas. Mae’r rhaglen yn darparu cefnogaeth i unrhyw sefydliad i helpu i ddatblygu prosiectau cynhwysiant digidol ac i gynyddu sgiliau digidol a hyder y bobl maen nhw’n eu cefnogi. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a’r hyn rydyn ni’n ei wneud i’w gweld ar ein gwefan – www.digitalcommunities.gov.wales.
Ein nod yw helpu cymaint o sefydliadau a phobl yng Nghymru â phosibl, ond oherwydd pandemig Covid-19, mae’r galw cyfredol ar y rhaglen yn uchel iawn. Er mwyn helpu i reoli’r galw cynyddol, gweler y canllawiau isod yn rhoi manylion yr hyn y gallwn ac na allwn ei gefnogi:
Beth allwn ei gefnogi
- Sefydliadau o bob sector yng Nghymru i archwilio sut y gallwch chi ddarparu cynhwysiant digidol gyda’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
- Hyfforddiant cynhwysiant digidol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr.
- Hyfforddiant cynhwysiant digidol i unigolion ar sail grŵp trwy sefydliadau.
- Hyfforddiant ar-lein trwy weminarau, sesiynau hyfforddi pwrpasol ac adnoddau ar-lein. Edrychwch ar ein gwefan am fanylion pellach.
- Sefydliadau sy’n eisiau datblygu prosiect gwirfoddoli digidol.
Yr hyn na allwn ei gefnogi
- Unigolion neu deuluoedd sydd angen offer neu ddata, er ein bod ni’n cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gydag unigolion.
- Dylid anfon unrhyw ymholiadau teuluol gan gynnwys diffyg dyfeisiau digidol ar gyfer plant oed ysgol at yr awdurdod lleol.
- Fodd bynnag, unigolion sydd angen hyfforddiant neu help i fynd ar-lein, rydym yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gydag unigolion.
- Mae eich Canolfan Ar-lein leol, llyfrgelloedd lleol a llawer o leoliadau cymunedol yn cynnig cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno mynd ar-lein. Mae gan Learn My Way gyrsiau am ddim i chi ddysgu sgiliau digidol er mwyn cadw’n ddiogel ac yn gysylltiedig.
- Ceisiadau cyllido er efallai y byddwn yn gallu cyfeirio at ffynonellau cyllid priodol.
Cysylltwch
I ofyn cwestiwn cyffredinol, i ofyn am gymorth, neu i drafod gwirfoddoli, llenwch y ffurflen isod. Nod ein tîm yw ymateb ichi o fewn 5 diwrnod gwaith.