Neidiwch i’r prif gynnwys

Rhaglen gweminar cynhwysiant digidol

Yn Cymunedau Digidol Cymru rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein, gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio digidol a allai fod yn hanfodol i chi a’ch defnyddwyr gwasanaeth wrth symud ymlaen.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Lady watching a DCW webinar

Isod mae manylion y sesiynau ar-lein sydd ar y gweill gennym, ynghyd â’r dolenni i gofrestru’ch lle.

Rydyn ni wedi ceisio gwneud y broses arwyddo mor syml â phosib ond os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru, cysylltwch â DCWtraining@cwmpas.coop


Mawrth

Apiau Synhwyraidd – 30 Mawrth | 10yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn adolygu adnoddau ar-lein a digidol i wella ysgogiad gwybyddol ac adnoddau i ganolbwyntio ar gysgu’n well ac ymlacio. Mae’r meysydd y byddwn yn eu trafod yn cynnwys: Apiau gweledol; Apiau ar gyfer myfyrio; Apiau ar gyfer cadw’n brysur; ac apiau olrhain hwyliau.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Apiau Synhwyraidd – 30 Mawrth | 2yh

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn adolygu adnoddau ar-lein a digidol i wella ysgogiad gwybyddol ac adnoddau i ganolbwyntio ar gysgu’n well ac ymlacio. Mae’r meysydd y byddwn yn eu trafod yn cynnwys: Apiau gweledol; Apiau ar gyfer myfyrio; Apiau ar gyfer cadw’n brysur; ac apiau olrhain hwyliau.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Ebrill

Diogelwch Ar-lein  – 6 Ebrill | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Uned Seiberdroseddu Heddlu’r De, a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd ar y pynciau dan sylw.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Mae’r sesiwn hon yn eich cyflwyno i’r sgiliau diogelwch ar-lein sylfaenol sy’n seiliedig ar Sgiliau Digidol Hanfodol Llywodraeth y DU.

Bydd yn ymdrin â:

  • Cadw’n ddiogel ar wefannau
  • Deall e-byst amheus
  • Diogelwch cyfrineiriau
  • Deall preifatrwydd ar-lein
  • Ymwybyddiaeth o feirysau
  • Adnoddau y gallwch eu defnyddio i ddysgu mwy am ddiogelwch ar-lein

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Diogelwch Ar-lein  – 6 Ebrill | 13:30 – 14:30

Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg.

Mae’r sesiwn hon yn eich cyflwyno i’r sgiliau diogelwch ar-lein sylfaenol sy’n seiliedig ar Sgiliau Digidol Hanfodol Llywodraeth y DU.

Bydd yn ymdrin â:

  • Cadw’n ddiogel ar wefannau
  • Deall e-byst amheus
  • Diogelwch cyfrineiriau
  • Deall preifatrwydd ar-lein
  • Ymwybyddiaeth o feirysau
  • Adnoddau y gallwch eu defnyddio i ddysgu mwy am ddiogelwch ar-lein

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Iechyd a Lles Digidol  – 13 Ebrill | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg.

Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar yr apiau a’r offer digidol amrywiol i helpu cynnal iechyd a lles. Mae’r sesiwn yn seiliedig ar 5 ffordd at lesiant y GIG, yr ydym yn eu defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer y pynciau i ymdrin â nhw.

Rydym yn darparu trosolwg o opsiynau ar gyfer:

  • Cadw’n gysylltiedig a syniadau ar gyfer gweithgareddau grŵp ar-lein.
  • Bod yn egnïol a chael eich diddanu.
  • Apiau sy’n ein hysgogi i fod yn egnïol ac ystyried ein hiechyd corfforol a’n deiet.
  • Apiau sy’n canolbwyntio ar ein hiechyd meddwl a’n lles.
  • Cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ar-lein.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Straeon Digidol  – 13 Ebrill | 18:00 – 19:00

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg.

Mae hel atgofion yn weithgaredd pwerus ar gyfer cof a lles. Mae Straeon Digidol yn dangos sut i gynhyrchu a rhannu fideos byr safonol ar eich dyfeisiau: yn amrywio o greu taith ar hyd llwybrau’r cof i greu cyfarwyddiadau defnyddiol.

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Egluro pam fod straeon digidol yn ddefnyddiol ac yn rhoi ambell ystyriaeth allweddol sut i ddechrau arni.
  • Eich tywys gam wrth gam i greu straeon digidol gan ddefnyddio Adobe Spark Video ar ddyfais Apple.
  • Eich tywys gam wrth gam i greu straeon digidol gan ddefnyddio’r ap Cyberlink PowerDirector ar ddyfais Android.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Dysgu Cymraeg gyda Offer Digidol – 20 Ebrill | 13:30 – 14:30

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg.

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg yn unig. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu adnoddau lefel mynediad i ddysgwyr Cymraeg.

Yn y sesiwn hwn, byddwn ni’n:

  • Trafod hanes y Gymraeg a sut mae wedi goroesi newidiadau diwylliannol.
  • Dangos amrywiaeth o adnoddau i chi sydd ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg, p’un ai a ydych chi’n ddechreuwr, yn ddysgwr canolradd neu uwch.
  • Arddangos ffyrdd i ymdrochi eich hun yn y Gymraeg pan fyddwch chi’n defnyddio’r rhyngrwyd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Y Gymraeg ar y We – 20 Ebrill | 18:00 – 19:00

Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg.

Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg yn unig. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu adnoddau Cymraeg trochi i siaradwyr Cymraeg.

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Trafod hanes y Gymraeg a sut y mae hi wedi goresgyn newidiadau diwylliannol.
  • Rhoi resymau i chi dros ddefnyddio’r rhyngrwyd yn y Gymraeg.
  • Dangos yr adnoddau sydd ar gael ichi ar gyfer adloniant, gwybodaeth a cymorth iaith.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Offer Digidol i Gefnogi Pobl Hŷn wrth ddefnyddio Gwasanaethau Gofal – 27 Ebrill | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Alive, elusen y DU. Mae elusen Alive yn ymroi i wella ansawdd bywyd pobl hŷn a’u gofalwyr. Mwy yma: https://aliveactivities.org/

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Mai

Hygyrchedd Digidol  – 4 Mai | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Microsoft. Mae Microsoft yn gwmni technoleg ddigidol blaenllaw a ddefnyddir bob dydd gan lu o sefydliadau.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Hygyrchedd Digidol  – 11 Mai | 10yb – 11yb

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Trafod yr opsiynau hygyrchedd addas sydd ar gael yn barod ar ddyfeisiau digidol modern.
  • Adolygu apiau sy’n rhoi cymorth gweledol a chlywedol.
  • Adolygu apiau sy’n cefnogi cyfathrebu.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Iechyd a Lles Digidol – 11 Mai | 18:00 – 19:30

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru gyda siaradwr gwadd o Amser i Newid Cymru, ymgyrch genedlaethol sy’n ceisio rhoi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl â phroblemau iechyd meddwl. Mwy yma: https://www.amserinewidcymru.org.uk

Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar yr apiau a’r offer digidol amrywiol i helpu cynnal iechyd a lles. Mae’r sesiwn yn seiliedig ar 5 ffordd at lesiant y GIG, yr ydym yn eu defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer y pynciau i ymdrin â nhw.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Hel Hanes yn Ddigidol – 18 Mai | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru a’r tywysydd Deian ap Rhisiart o gwmni Tywysydd | Canllaw Taith Cymru. Mae Deian yn gynghorydd Cymunedau Digidol Cymru ac yn dywysydd teithiau proffesiynol o Gaernarfon. Gyda gradd Meistr yn hanes Cymru, bydd yn cefnogi ein sesiwn gyda’i wybodaeth a’i arbenigedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.tourguide-wales.cymru/

Oes ganddoch chi ddiddordeb darganfod mwy o wybodaeth am hanes eich miltir sgwar? Neu’n awyddus i ddysgu mwy am enwau hanesyddol Cymru?

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Trafod pam ei fod yn bwysig i ddysgu am ein hanes a’i gofnodi.
  • Rhoi trosolwg o adnoddau lleol a chenedlaethol ar gyfer cofnodion hanesyddol.
  • Eich cyfeirio at wybodaeth ac offer chwilio ar gyfer adnabod hanes Cymru trwy bodlediadau, cyfryngau cymdeithasol a Google.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Offer Digidol ar gyfer Cyfieithu – 25 Mai | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Microsoft. Mae Microsoft yn gwmni technoleg ddigidol blaenllaw a ddefnyddir bob dydd gan lu o sefydliadau.

Weithiau, gall cyfathrebu gydag ystod amrywiol o bobl fod yn heriol pan nad yw iaith gyffredin yn cael ei siarad. Nid yw’r defnydd o gyfieithydd i gefnogi sgwrs ar gael bob tro. Mae offer cyfieithu digidol yn cynnig dull amgen o sgwrsio ag unigolyn a chynulleidfaoedd ehangach.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Hel Hanes yn Ddigidol – 25 Mai | 13:30 – 15:00

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru a’r tywysydd Deian ap Rhisiart o gwmni Tywysydd | Canllaw Taith Cymru. Mae Deian yn gynghorydd Cymunedau Digidol Cymru ac yn dywysydd teithiau proffesiynol o Gaernarfon. Gyda gradd Meistr yn hanes Cymru, bydd yn cefnogi ein sesiwn gyda’i wybodaeth a’i arbenigedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.tourguide-wales.cymru/

Oes ganddoch chi ddiddordeb darganfod mwy o wybodaeth am hanes eich miltir sgwar? Neu’n awyddus i ddysgu mwy am enwau hanesyddol Cymru?

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Trafod pam ei fod yn bwysig i ddysgu am ein hanes a’i gofnodi.
  • Rhoi trosolwg o adnoddau lleol a chenedlaethol ar gyfer cofnodion hanesyddol.
  • Eich cyfeirio at wybodaeth ac offer chwilio ar gyfer adnabod hanes Cymru trwy bodlediadau, cyfryngau cymdeithasol a Google.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Mehefin

Ysbrydoli Gweithgareddau Digidol – 8 Mehefin | 10yb – 11yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at y rheiny sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd yn eich cyflwyno i adnoddau y gallwch eu defnyddio i gael pobl i ymgysylltu â thechnoleg digidol. Bydd y sesiwn yn eich ysbrydoli ac yn rhoi syniadau i chi am sut i gynnal gweithgareddau digidol i wella iechyd a lles y bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw. Bydd y testunau sy’n cael eu trafod yn cynnwys hel atgofion, defnyddio YouTube, cerddoriaeth, darllen ar-lein, cerddoriaeth, gemau / posau, apiau creadigol, Google Maps/Google Earth i’ch arwain i ble y cawsoch eich geni neu’ch magu, a llawer mwy.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Defnyddio’r Rhyngrwyd i Ddysgu Sgiliau Newydd – 13 Mehefin | 11yb – 12:00

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Mae’r rhyngrwyd yn rhoi’r cyfle i ni i archwilio ein diddordebau a dysgu sgiliau newydd. Yn ystod y sesiwn hyn byddwn ni yn edrych ar offer dysgu ar-lein sydd ar gael i ddysgu sgiliau newydd.

Byddwn ni yn:

  • Dangos sut i ddefnyddio Google i ddatrys problemau.
  • Edrych ar yr offer dysgu gwahanol sydd ar-lein  i ddysgu sgiliau newydd a chael mynediad i gyrsiau.
  • Trafod y ffyrdd allwn ni ddatblygu ein hobïau neu ddiddordebau gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Defnyddio’r Rhyngrwyd i Ddysgu Sgiliau Newydd – 13 Mehefin | 13:30 – 14:30

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Mae’r rhyngrwyd yn rhoi’r cyfle i ni i archwilio ein diddordebau a dysgu sgiliau newydd. Yn ystod y sesiwn hyn byddwn ni yn edrych ar offer dysgu ar-lein sydd ar gael i ddysgu sgiliau newydd.

Byddwn ni yn:

  • Dangos sut i ddefnyddio Google i ddatrys problemau.
  • Edrych ar yr offer dysgu gwahanol sydd ar-lein  i ddysgu sgiliau newydd a chael mynediad i gyrsiau.
  • Trafod y ffyrdd allwn ni ddatblygu ein hobïau neu ddiddordebau gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Helpu Pobl i fynd Ar-lein – 13 Mehefin | 18:00 – 19:30

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru gyda siaradwr gwadd o Good Things Foundation. Elusen newid cymdeithasol yw Good Things Foundation, sy’n helpu pobl i wella eu bywydau drwy fod yn ddigidol. Mwy yma: https://www.goodthingsfoundation.org/

Mae’r sesiwn hon yn eich herio i ystyried sut y byddwch yn ymgorffori’r agenda cynhwysiant digidol yn eich cymuned neu sefydliad i helpu pobl i fynd ar-lein.

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Cyfeillion Digidol – Helpu Pobl i fynd Ar-lein – Dyddiad i’w gadarnhau

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Mae nifer o aelodau’r cyhoedd yng Nghymru yn berchen ar ddyfeisiau digidol ond yn aml angen cymorth neu arweiniad i fynd ar-lein. Mae Cyfeillion Digidol yn wyneb dibynadwy gall unigolion droi tuag, a all wneud byd o wahaniaeth i’w hyder digidol.

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Trafod pwysigrwydd dod i adnabod rhywyn er mwyn teilwra cymorth ar gyfer eu hanghenion.
  • Goresgyn rhwystrau i fynd ar-lein.
  • Os yn berthnasol, canolbwyntio ar ddulliau o gefnogi rhywun o bell a rhoi cyngor tros alwadau ffôn a galwadau fideo.
  • Adolygu offer digidol i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl, a’u a chyfeirio at adnoddau ar gyfer dysgu ymhellach.

Am rhagor o wybodaeth ebostiwch dcwtraining@cwmpas.coop


Taclo Unigrwydd ac Allgau Digidol – 22 Mehefin | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru a siaradwr gwadd o Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn diogelu ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn o Fôn i Fynwy, gan graffu ar ystod eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau a dylanwadu arnynt. Mwy yma: https://www.olderpeoplewales.com/cy/home.aspx

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Hygyrchedd Digidol – 29 Mehefin | 10yb – 11:30yb

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

Gweminar ar y cyd a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru gyda siaradwr gwadd o Deafblind Cymru. Mae elusen Deafblind UK yn cefnogi unigolion sydd wedi colli eu golwg a’u clyw. Mwy yma: https://deafblind.org.uk/

Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]


Cyflwyniad i Bodlediadau – 29 Mehefin | 13:30 – 14:30

Cyflwynir y sesiwn yn Gymraeg.

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • Archwilio pwrpas creu podlediad, a gofyn beth yw budd cychwyn a gwrando ar bodlediadau.
  • Datgan faint mor syml mae mynd ati i greu podlediad eich hyn.
  • Trafod y technoleg tu ôl i bodlediadau, a dangos i chi pa offerynnau sydd ar gael i’ch helpu.

Cofrestwrch yma [agorir mewn ffenestr newydd]