Y Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein yng Nghymru
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Good Things Foundation gyda ffocws penodol ar wella mynediad at dechnoleg ddigidol a sgiliau digidol. Yn y blog hwn rydym yn mynd i drafod y gwaith rydym wedi'i wneud i ddatblygu'r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein yng Nghymru.
Mae Wythnos Dewch Ar-lein yn ymgyrch cynhwysiant digidol a drefnir gan Good Things Foundation. Gall allgáu digidol gael effaith negyddol enfawr ar fywyd unigolyn, gan arwain at waeth canlyniadau iechyd a disgwyliad oes is, mwy o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, a llai o fynediad at swyddi ac addysg. Yn y byd ôl-Covid, mae’r angen i gael eich cynnwys yn ddigidol yn bwysicach nag erioed.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn rhedeg rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (DCW) – sy’n bodoli er mwyn lleihau allgáu digidol yng Nghymru. Rydym eisiau Cymru lle mae gan bawb y sgiliau, y mynediad a’r cymhelliant i fod yn ddefnyddiwr technoleg ddigidol hyderus.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Good Things Foundation gyda ffocws penodol ar wella mynediad at dechnoleg ddigidol a sgiliau digidol. Yn y blog hwn rydym yn mynd i drafod y gwaith rydym wedi’i wneud i ddatblygu’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein yng Nghymru.
Mae’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein, sy’n cael ei redeg gan Good Things Foundation, yn cynnwys miloedd o sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng nghalon cymunedau lleol iawn ledled y DU, pob un gyda’r bwriad o helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol er mwyn cael eu cynnwys yn fwy, cael mynediad at wasanaethau hanfodol a manteisio ar y cyfleoedd y mae’r rhyngrwyd yn eu rhoi.
Mae pob Canolfan Ar-lein yn wahanol, gyda rhai yn gweithredu mewn llyfrgelloedd, lleoliadau cymunedol a chanolfannau hamdden, ac eraill mewn lleoliadau mwy anarferol fel tafarndai cymunedol. Maen nhw’n cynnig mannau croesawgar i aelodau’r gymuned, profiad dysgu cefnogol, a mynediad i’r rhyngrwyd. Mae ganddyn nhw ymrwymiad i gynhwysiant digidol a chymdeithasol, ac i helpu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae gwirfoddoli wrth wraidd Canolfannau Ar-lein, gydag unigolion o fewn cymunedau neu sefydliadau’n neilltuo eu hamser i drosglwyddo sgiliau digidol i eraill. Dydy’r bobl hyn ddim yn arbenigwyr technegol – does dim angen i chi fod er mwyn helpu rhywun i fynd ar-lein. Maen nhw’n bobl sydd am drosglwyddo’u sgiliau digidol mewn ffordd syml a chefnogol. Mae gwirfoddolwyr digidol yn rhan hanfodol o’n helpu ni i ddod â phawb yng Nghymru ar hyd y daith tuag at fod yn genedl sy’n hyderus yn ddigidol.
Ers 2019, mae DCW wedi helpu i recriwtio 120 o Ganolfannau Ar-lein newydd, ac ailymgysylltu â 43 arall. Felly ar hyn o bryd, mae 265 o Ganolfannau Ar-lein ledled Cymru, o ganolfannau cymunedol yng nghanol dinasoedd i dafarndai cymunedol gwledig.
Yn ddiweddar, gwnaethom recriwtio 19 o Ganolfannau newydd mewn lleoliadau gwledig sydd wedi sicrhau dyfeisiau drwy grant Good Things Foundation, sy’n eu galluogi i gefnogi unigolion yn eu cymunedau.
Gall Cynghorwyr DCW gefnogi sefydliadau sydd â diddordeb mewn dod yn Ganolfannau Ar-lein drwy ddarparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr, benthyg cyfarpar a chysylltu â phartneriaethau dewch ar-lein lleol.
Yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i wirfoddolwyr, mae pob Canolfan Ar-lein yn cynnig mynediad i Learn My Way, llwyfan dysgu ar-lein a grëwyd gan Good Things Foundation. Mae dros 30 o gyrsiau rhad ac am ddim ar Learn My Way, yn amrywio o ddefnyddio bysellfwrdd i gymorth o ran sut i hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi’ch ysbrydoli i helpu rhywun yr Wythnos Dewch Ar-lein hon, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn bod yn Ganolfan Ar-lein neu’n wirfoddolwr digidol, gall Cymunedau Digidol Cymru eich helpu. Rydym yn awyddus iawn i barhau i dyfu’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein yng Nghymru a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a’ch helpu er mwyn eich galluogi chi i helpu eich cymuned neu’ch sefydliad.