Mae Shah, cyfieithydd a gafodd ei eni yn Iran, yn rhannu ei brofiad am yr heriau o geisio mynd ar-lein a’r ffordd mae hynny wedi’i helpu i ddod yn agosach at wireddu ei freuddwyd o agor busnes.
Defnyddio’r rhyngrwyd i gefnogi fy ngwaith a chyflawni fy mreuddwydion – Stori Shahsawar
Daeth Shahsawar Rahmani i’r DU ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl, pan oedd y rhyngrwyd yn dechrau cael ei ddatblygu yn Iran. Wrth astudio llenyddiaeth Persiaidd datblygodd wybodaeth sylfaenol am y byd ar-lein a dilynodd gwrs cyfrifiadurol yn y coleg er mwyn dysgu rhagor. Ond heb ddyfais bersonol, collodd lawer o’r sgiliau a ddatblygodd yn y coleg.
Fel cyfieithydd mewn pum iaith, roedd Shah yn teithio’n aml ledled y DU ar gyfer ei waith yn cynorthwyo Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid. Pan ddaeth pandemig Covid-19, nid oedd yn medru darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb. Roedd y sgiliau angenrheidiol ar gyfer ei swydd wedi newid dros nos. Yn ffodus, cafodd gymorth gan ei gyflogwr er mwyn caffael y sgiliau digidol sy’n anghenrheidiol ar gyfer gweithio ar-lein
Dywedodd: “Ar y dechrau roeddwn i’n teimlo’r pwysau ac yn ofni gwneud rhywbeth o’i le, ond does dim rheswm i beidio gofyn cwestiynau. Pan oeddwn i mewn penbleth yn y gwaith, byswn yn gofyn am gymorth, yn enwedig pan oeddwn i’n defnyddio Teams – roedd dysgu sut i ddefnyddio’r teclyn sgwrsio a’r ystafelloedd gwahanol yn gymhleth.”
Heddiw, mae Shah yn dweud bod gweithio ar-lein wedi’i helpu i fod yn un sy’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd ac yn gweld y manteision yn ei fywyd personol.
Dywedodd: “Mae defnyddio’r rhyngrwyd fel gallu cerdded y dyddiau hyn; mae llawer o bethau fel busnes, addysg, y llywodraeth a gofal iechyd wedi newid o’i herwydd. Mae cael mynediad i’r rhyngrwyd yn hynod o bwysig neu weithiau gallwch chi gael eich gadael ar ôl. Dangosodd y pandemig i ni, er nad oedd hi’n bosib mynd at feddyg teulu, roedd hi’n bosib siarad ag arbenigwyr ar-lein a chael yr help sydd ei angen. Hebddo, mae bywyd yn anoddach.”
Fel darllenydd brwd, gwelodd Shah y rhyngrwyd fel ffordd haws o ddarllen y newyddion, cylchgronau a hyd yn oed ddefnyddio Facebook i ddysgu pethau a chyfnewid syniadau â phobl ym mhobman. Mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau digidol ac yn dweud, “Mae bod ar-lein yn caniatáu imi freuddwydio am y pethau rydw i eisiau eu gwneud ac hefyd i wireddu’r breuddwydion hynny – rydw i eisiau creu fy nghwmni cyfieithu a gwefan fy hun sy’n cefnogi pobl yn uniongyrchol. Mae gallu mynd ar-lein yn golygu nad oes gen i gymaint o gostau ac mae’n llawer mwy diogel.”
Wrth fyfyrio ar ei brofiad ei hun tynnodd sylw at: “Efallai bydd pobl sydd newydd symud i’r DU o wahanol gefndiroedd a chymunedau yn cael trafferth gyda thechnoleg – felly mae’n bwysig bod pobl yn mynd ati i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae angen i bobl helpu eu hunain fel y gallant wella ansawdd eu bywydau.”
Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.