Neidiwch i’r prif gynnwys

Fy nghariad at y Cyfryngau Cymdeithasol a sut mae bod ar-lein yn cefnogi fy nyfodol – Stori Melissa

Mae Melissa, myfyriwr coleg, yn egluro pam ei bod yn hoff iawn o’r cyfryngau cymdeithasol a sut mae’r byd ar-lein yn cefnogi ei haddysg.

Young college student holding her mobile phone

Roedd tyfu i fyny yng Nghaerdydd a gweld ei ffrindiau i gyd ar-lein wedi ysgogi Melissa Denga i ddysgu mwy am yr hyn oedd gan y byd ar-lein i’w gynnig. I ddechrau, roedd hi wrth ei bodd gydag apiau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Twitter, a Snapchat a oedd yn caniatáu iddi gysylltu â’i theulu a’i ffrindiau ledled y Byd.

Dywedodd: “Dw i’n mwynhau defnyddio Instagram fwyaf gan fy mod i’n gallu bod yn greadigol ac mae’n gadael imi weld beth mae fy ffrindiau yn ei wneud. Dw i hefyd yn hoffi Twitter oherwydd fy mod i’n gallu gweld y straeon diweddaraf a beth sy’n boblogaidd ar-lein.” Mae hi hefyd yn defnyddio’i ffôn ar gyfer siopa ar-lein.

Default Text

Mae’r pandemig wedi amlygu’n fwy nag erioed sut gall pawb, yn enwedig pobl ifanc, elwa o fod ar-lein. Ers i COVID-19 atal dysgu wyneb yn wyneb, mae bod ar-lein wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr fel Melissa barhau â’u haddysg.

Nid yw’r newid i ddysgu digidol wedi bod yn hawdd i Melissa, mae bod heb unrhyw gefnogaeth wyneb yn wyneb a gorfod addasu i ddysgu gartref wedi amharu ar ei Lefel A. Ond mae hi’n pwysleisio bod dysgu rhithwir wedi rhoi cyfle iddi brofi pethau y byddai hi fel arall heb gael ei wneud yn y dosbarth. Drwy ddefnyddio cymwysiadau fel Teams i gynorthwyo ei dysgu ar-lein mae hi wedi parhau i adeiladu tuag at ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ynghyd â datblygu sgiliau digidol newydd a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer ei gyrfa.

Pwysleisiodd: “Yn ystod y pandemig, buaswn i’n dweud bod mynd ar-lein a defnyddio dyfeisiau wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar fy mywyd. Dw i’n bwriadu mynd i’r brifysgol i astudio Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus felly bydd y gallu i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol fel Word a PowerPoint yn fy helpu i greu syniadau. Byddaf hefyd angen profiad o ddefnyddio offer marchnata ar-lein, felly mae hyn yn arfer da.”

Dywedodd Melissa y dylai’r rhai sy’n amharod i fynd ar-lein gydnabod ei fod yn gallu darparu amrywiaeth o gyfleoedd iddynt. Eglurodd, “Mae yna ddigon i’w wneud, gallwch ryngweithio a chysylltu â phobl eraill, yn ogystal â gwneud rhywfaint o siopa ar-lein neu edrych ar y newyddion i weld beth sy’n digwydd ledled y byd ar-lein.”

Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.

Darganfyddwch fwy
Young girl looking at smart phone