Mae Iechyd Bae Abertawe yn taclo gordewdra ac arwahanrwydd cymdeithasol
Aeth Cymunedau Digidol Cymru ati i helpu clwstwr Iechyd Bae Abertawe i greu prosiect cynhwysiant digidol er mwyn mynd i'r afael â gordewdra ac unigedd cymdeithasol.
Crynodeb
Aeth Cymunedau Digidol Cymru ati i helpu clwstwr Iechyd Bae Abertawe i greu prosiect cynhwysiant digidol er mwyn mynd i’r afael â gordewdra ac unigedd cymdeithasol. Daeth tîm Cymuedau Digidol Cymru â phartneriaid o’r gwasanaethau iechyd, addysg a llyfrgelloedd ynghyd i ddatblygu’r cynllun peilot.
Cafodd chwe chlaf eu nodi gan feddygon teulu, a’u hatgyfeirio i’r cynllun peilot – pob un wedi’i ddewis gan y byddent yn elwa ar ffordd fwy egnïol o fyw.
Fe wnaeth adran Addysg Gymunedol i Oedolion Dinas Abertawe ddatblygu rhaglen bum wythnos o addysg a ffitrwydd. Rhoddwyd teclynnau Fitbit i’r cleifion i’w helpu i olrhain eu cynnydd a dysgu sut i ddefnyddio offer digidol i fonitro eu cynnydd.
Ymatebodd pob un o’r cleifion yn gadarnhaol i’r cwrs ac aeth y rhan fwyaf ymlaen i barhau i ddefnyddio apiau ffitrwydd a dyfeisiau olrhain gwisgadwy.
Bellach, mae’r cynllun ar agor i bobl sydd am hunanatgyfeirio ac yn cael ei hyrwyddo drwy lyfrgelloedd a sefydliadau cymunedol.
Pa broblem oedd angen mynd i’r afael â hi?
Mae Iechyd Bae Abertawe yn cynnwys wyth meddygfa sy’n cydweithio â phartneriaid o’r gwasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Mae’r clwstwr yn gwasanaethu dros 75,000 o bobl, llawer ohonyn nhw’n henoed (22.5%). Trwy gydweithio, nod y meddygfeydd yw atal afiechyd a galluogi pobl i gadw’n iach ac yn annibynnol gyhyd ag y bo modd.
Er mwyn cefnogi’r nod hwn, roedd Iechyd Bae Abertawe am ganolbwyntio ar fynd i’r afael â dwy broblem allweddol – unigedd cymdeithasol a gordewdra. Buont yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i ddod â’r ddwy broblem ynghyd mewn un prosiect cynhwysiant digidol. Nod y prosiect oedd cynyddu ffitrwydd, helpu i golli pwysau, cynyddu sgiliau digidol a hyrwyddo cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein.
Beth oedd yr ymyriad a sut wnaeth hynny weithio?
Yn y prosiect peilot cychwynnol, daeth partneriaeth Addysg Gymunedol i Oedolion Prifysgol Abertawe, gwasanaeth llyfrgell Abertawe, Cymunedau Digidol Cymru a grwpiau cleifion ynghyd.
Fe wnaeth meddygon teulu nodi chwe unigolyn a fyddai’n elwa ar ffordd fwy egniol o fyw ac aeth pob practis meddyg teulu (a oedd yn cynnwys dwy feddygfa) ati i atgyfeirio un claf i’r prosiect.
Esblygodd y broses gyfeirio yn ystod y peilot. I ddechrau, roedd yn canolbwyntio ar gleifion â lefelau BMI uchel a thystiolaeth o unigedd cymdeithasol, ond roedd meddygfeydd yn teimlo wedyn bod cleifion eraill ar eu colled. Ehangwyd y meini prawf atgyfeirio, er enghraifft, i gynnwys cleifion â diabetes.
Roedd pob un o chwe chlaf y rhaglen beilot dros 65 mlwydd oed, ac roedd ganddynt ddiabetes math 2.
“Mae’r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn cyfrifo y bydd dysgu sgiliau digidol i unigolion […] yn arbed cyfanswm o £121 miliwn y flwyddyn i’r GIG erbyn 2025 drwy leihau nifer yr ymweliadau â meddygon teulu a lleihau’r defnydd o wasanaethau all-lein. […] Ar sail fesul pen o’r boblogaeth byddai hyn yn golygu arbedion o £5.5 miliwn y flwyddyn yng Nghymru erbyn 2025.”
Adroddiad cryno Cynhwysiant Digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru (Bob Gann, Tachwedd 2018)
Datblygodd Addysg Gymunedol i Oedolion Dinas Abertawe gwrs iechyd digidol pum wythnos y gellid ei gyflwyno i’r cleifion a ddewiswyd. Yna, fe wnaeth Cymunedau Digidol Cymru ddarparu dyfeisiau Fitbit i’r clwstwr i’w benthyca i’r grŵp hwn er mwyn eu helpu i olrhain eu cynnydd.
Bu adran Addysg Gymunedol i Oedolion Dinas Abertawe yn hyfforddi’r cleifion i ddefnyddio’r Fitbits yn ogystal â dangos amrywiaeth o apiau ac adnoddau iechyd ar-lein eraill iddyn nhw.
Yn ystod wythnos olaf y rhaglen, cafodd y cyfranwyr wybod am grwpiau cymunedol eraill fyddai’n gallu eu helpu i barhau â’u cynnydd, megis grwpiau cerdded lleol a gweithgareddau mewn parciau. Fe’u hanogwyd hefyd i gysylltu â’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) i adeiladu ar y cynnydd a wnaethant drwy’r prosiect peilot.
Beth oedd effaith yr ymyriad?
- Trwy fireinio’r broses atgyfeirio, llwyddwyd i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan. Yn y cam nesaf bydd y clwstwr yn cysylltu â’r gwasanaeth llyfrgell, ymwelwyr iechyd ac ymarferwyr nyrsio. Gyda’i gilydd byddant yn hyrwyddo’r cynllun yn ehangach ac yn caniatáu i gleifion hunanatgyfeirio.
- Roedd daearyddiaeth ac amser teithio yn ffactorau wrth annog pobl i ymgysylltu â’r prosiect. Bydd y Clwstwr yn defnyddio’r llyfrgell ganolog ar gyfer rhaglenni’r dyfodol i’w gwneud hi’n haws i bobl fynychu.
- Roedd cynnal sesiynau yn ystod y dydd yn golygu nad oedd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr o oedran gweithio. Hoffai’r Clwstwr gynnwys amrediad oedran ehangach drwy amrywio amser cynnal y sesiynau.
Beth oedd y canlyniad o ran sgiliau newydd, iechyd gwell a lles gwell?
- Teimlai’r chwe chyfranogwr eu bod wedi elwa ar y cwrs a’i fod yn ddefnyddiol dros ben.
- Dywedodd pump y byddent yn defnyddio technoleg sy’n gysylltiedig ag iechyd ac yn ystyried defnyddio apiau iechyd a lles, technoleg wisgadwy a gwefannau iechyd yn y dyfodol.
- Aeth hanner y cyfranogwyr ymlaen i brynu eu dyfeisiau olrhain ffitrwydd eu hunain a dywedodd y mwyafrif fod defnyddio’r FitBit wedi eu hannog i wneud mwy o ymarfer corff.
- Hefyd, roedd cyfranogwyr yn teimlo bod y cwrs iechyd digidol wedi eu hannog i ddefnyddio technolegau mewn ffyrdd gwahanol.
- Cafwyd adborth cadarnhaol gan reolwyr practisau ac maen nhw’n cefnogi datblygiad cam nesaf y rhaglen.
- Mae cysylltu â gwasanaethau ffisiotherapi a NERS wedi cynyddu gwerth y rhaglen i’r rhai sy’n cymryd rhan.
“Roedd gwerthusiad o gam un rhaglen ‘NHS Widening Digital Participation’ yn Lloegr […] yn amcangyfrifir bod £6.40 wedi’i arbed am bob £1 a fuddsoddir o ganlyniad i lai o gysylltiadau y gellir eu hosgoi â’r GIG oherwydd mwy o hunanofal drwy fynediad at wybodaeth a chyngor arlein.”
Adroddiad cryno Cynhwysiant Digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru (Bob Gann, Tachwedd 2018)
Beth allwn ni ei ddysgu y gellid ei ailadrodd, ei drosglwyddo neu ei addasu?
Roedd rôl Cymunedau Digidol Cymru fel brocer yn allweddol i ddod â’r holl bartneriaid at ei gilydd i ddatblygu’r prosiect:
- Ffrwyth partneriaeth rhwng gofal sylfaenol, addysg oedolion, gwasanaethau llyfrgell a’r bwrdd iechyd oedd y prosiect.
- Mae’r dull partneriaeth wedi helpu i sicrhau arian i’r prosiect y tu hwnt i’r cyfnod peilot
Mae’r cyfranwyr yn elwa ar gael atgyfeiriad pellach am gymorth gydag ymarfer corff a maeth:
- Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan y cleifion ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn parhau â’r cynllun ymarfer.
- Fel prosiect cyfyngedig o ran amser, roedd hi’n bwysig gallu atgyfeirio cleifion at gymorth parhaus fel gwasanaethau ffisiotherapi, grwpiau gweithgareddau cymunedol neu’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Drwy feithrin agwedd hyblyg at y prosiect peilot, llwyddodd y practisau i fireinio’r broses atgyfeirio wrth fynd ymlaen:
- Mae hyn yn galluogi amrediad ehangach o gleifion i elwa ar y peilot
- Bu hefyd o gymorth i lywio camau nesa’r prosiect, gan gynnwys datblygu llwybrau hunangyfeirio