Defnyddio technoleg i wella eich corff a’ch bywyd â chymorth gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
Gwnaeth pobl ym Mlaenau Gwent wella eu ffitrwydd, sgiliau digidol, hyder a'u hunan-barch diolch i brosiect Fitbit a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.
Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn gyfrifol am hamdden, dysgu a diwylliant ym Mlaenau Gwent. Ei nod yw cael effaith gadarnhaol ar les corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac economaidd pobl leol.
Mae angen cymorth â sgiliau digidol sylfaenol ar nifer o bobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent ond teimlai’r Ymddiriedolaeth nad oedd dosbarthiadau TGCh yn apelio at bobl ddihyder. Gwnaethant benderfynu annog pobl i ddefnyddio technoleg drwy weithgareddau ymarferol, bob dydd.
Sut
Cafodd chwe menyw a oedd yn mynychu Canolfannau Gweithredu Dysgu’r Ymddiriedolaeth eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect chwe wythnos a elwir yn Your Body, Your Life. Nod y prosiect oedd gwella eu ffitrwydd, hyder a hunan-barch, yn ogystal â’u sgiliau digidol, llythrennedd a rhifedd.
Cawsant aelodaeth am ddim ar gyfer canolfan hamdden leol a’r gallu i ddefnyddio hyfforddwr personol dros gyfnod y prosiect. Cafodd pob un ohonynt Fitbit (wedi’u benthyg gan Cymunedau Digidol Cymru) hefyd i’w ddefnyddio gyda’u dyfeisiau clyfar. Y nod oedd rhoi’r holl adnoddau yr oedd eu hangen ar y menywod hyn i wneud newidiadau yn eu bywydau.
Effaith
Cafodd prosiect Your Body, Your Life amrywiaeth o effeithiau. Cytunodd y menywod dan sylw fod eu lles wedi gwella yn sylweddol. Roedd y Fitbits a’r dyfeisiau clyfar o fudd enfawr i’r cyfranogwyr:
- Roedd y dyfeisiau yn golygu nad oeddent yn dibynnu ar eu hyfforddwr personol i’w cymell ac i roi cyngor iddynt.
- Gwnaethant olrhain lefelau eu gweithgarwch drwy gydol y dydd, fel y gallant weld sut roeddent yn cael ymarfer corff drwy eu gweithgareddau cyffredin.
- Gwnaethant ddysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ryseitiau iach ac i wneud dewisiadau gwell o ran eu deiet.
- Gwnaethant feithrin cydberthnasau newydd drwy gyfnewid awgrymiadau o ran eu hiechyd, dod o hyd i wefannau newydd a chreu grwpiau sgwrsio ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gwnaeth eu teuluoedd hefyd elwa ar y prosiect gan fod y menywod yn rhannu eu sgiliau digidol ac yn coginio’n fwy iach.
Wrth i’w hyder digidol gynyddu, roeddent yn gallu defnyddio technoleg, megis sgyrsiau byw a System Leoli Fyd-eang, mewn agweddau eraill ar eu bywydau. Arweiniodd hyn ar welliannau ychwanegol i’w lles meddyliol, cymdeithasol ac economaidd.