Mae technoleg yn dod â chenedlaethau ynghyd yn Wrecsam
Dangosodd disgyblion o Ysgol Borras i bobl yng Nghartref Preswyl Cae Glo sut i gadw'n ddiogel ar-lein - gyda chymorth jiraff, taith feicio o amgylch Wrecsam a Sweet Caroline!
Mae Cae Glo yn ganolfan breswyl yn Wrecsam ar gyfer pobl dros 55 oed. Mae’n rhan o gynllun tai Clwyd Alyn, ac mae’r preswylwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gerddi cymunedol a’r lolfa. Caiff y gweithgareddau hyn eu cydlynu gan staff yn rheolaidd, ac ar ôl mwynhau sesiwn rhwng cenedlaethau gydag Ysgol Abermorddu y llynedd, lle bu’r plant yn arddangos dyfeisiau digidol, roedd y staff a’r preswylwyr yn awyddus i ddysgu rhagor. Estynnwyd gwahoddiad i e-gadetiaid Ysgol Borras, ac roedd y plant yn llawn cyffro ynghylch ymweld â nhw.
Beth oedd ein hymyrraeth?
Cymerodd e-gadetiaid Ysgol Borras ran yn rhaglen Arwyr Digidol Cymunedau Digidol Cymru. Roedd y sesiwn yn ymwneud yn llai ag addysgu technoleg, yr oedd y plant eisoes yn wybodus iawn yn ei chylch, ac yn fwy ynghylch deall cynhwysiant. Aeth y plant ati i drafod y rhwystrau y gall pobl hŷn eu hwynebu o ran cyrchu a defnyddio technoleg, ac i chwilio am ffyrdd o gefnogi, calonogi ac addysgu pobl sydd ag ofn defnyddio’r Rhyngrwyd a dyfeisiau digidol.
Gan eu bod wedi llunio a chyflwyno cyflwyniad ar ddiogelwch ar-lein i’w hysgol yn ddiweddar, penderfynodd y plant gynnal eu sesiwn ar gyfer preswylwyr Cae Glo gyda’r cyflwyniad mewnweledol hwn yr oeddent wedi gwneud ymchwil da ar ei gyfer. Aeth yr e-gadetiaid ati i roi cyngor ar gyfrineiriau, pori diogel, y cyfryngau cymdeithasol a phreifatrwydd. Dilynwyd hyn gan arddangosiad o bensetiau Oculus Virtual Reality, a fwynhawyd yn fawr gan y ddwy genhedlaeth, ac a oedd yn cynnwys taith rithwir i loc pengwiniaid a chyfarchiad gan jiráff ar saffari.
Daeth y sesiwn gyda’r plant i ben gyda chwis a oedd yn profi gwybodaeth y preswylwyr am logos rhaglenni ar-lein. Roedd y plant i gyd wedi mwynhau eu hymweliad â Chae Glo yn fawr. Roedd eu brwdfrydedd, eu gwybodaeth a’u hymddygiad yn glod i’r ysgol.
Yn dilyn ymweliad llwyddiannus yr ysgol, gwahoddodd Clwyd Alyn Cymunedau Digidol Cymru ‘nôl yr wythnos ganlynol i gyflwyno sesiwn arall. Y tro hwn, aeth yr hyfforddwr, Deian, a’r Ymgynghorydd, Simon, ati i ddifyrru’r staff a’r preswylwyr gyda bore o atgofion, realiti rhithwir, profiad o feic realiti rhithwir ac, wrth gwrs, sesiwn ganu.
Aeth Deian ati i ddangos fideo o’r dyddiau a fu ledled Gogledd Cymru i’r preswylwyr, gan ddefnyddio fideos o’r archif genedlaethol. Roedd y preswylwyr wrth eu bod yn trafod y mannau lle roeddent wedi bod, atgofion plentyndod a gwyliau yr oeddent wedi bod arnynt yn y lleoedd a oedd yn ymddangos yn y ffilmiau.
Nesaf, roedd y preswylwyr yn gallu mynd ar daith rithwir i’r traeth, i raeadr ac i goedwig, a hynny trwy ddefnyddio ffilmiau a grëwyd gan Simon gyda chamera 360. Roedd prototeip Simon o feic realiti rhithwir hefyd yn boblogaidd iawn, gydag un o’r preswylwyr yn ei dagrau wrth iddi ‘ymweld’ â chartref ei phlentyndod. Roedd y beic wedi’i greu i fod yn llonydd a chael ei ddefnyddio o gysur cadair yr unigolyn. Wrth i’r person bedlo, mae’r sgrin o’i flaen yn dangos ei daith trwy ddefnyddio Google Maps. Nod y beic realiti rhithwir yw cynnig gweithgaredd ffitrwydd lefel isel, gyda’r cyfle i ymweld ag unrhyw fan yn y byd yn tynnu sylw ac yn cynnig rhywbeth o ddiddordeb.
Gwahoddwyd y preswylwyr i ddod â’r sesiwn i ben trwy gyd-ganu Sweet Caroline a chaneuon eraill o’u cyfnod. Dywedodd un o’r preswylwyr mai hon oedd y sesiwn orau iddi fod ynddi erioed.
Canlyniadau’r Prosiect
Roedd staff a phreswylwyr Cae Glo wedi mwynhau’r sesiynau cymaint, fel eu bod wedi estyn rhagor o wahoddiadau ar gyfer digwyddiadau rhwng cenedlaethau a sesiynau realiti rhithwir ledled eu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Mae Ysgol Borras wedi cynllunio rhagor o ddigwyddiadau ledled Sir y Fflint a Wrecsam, ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn bartner iddi wrth gyflwyno’r sesiynau hyn.
Effaith
Dywedodd Louise Blackwell, y Cydlynydd Gweithgareddau ar gyfer Clwyd Alyn: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Cymunedau Digidol Cymru ac Ysgol Gynradd Borras; roeddent wedi cynnal sesiwn mor dda ar gyfer ein preswylwyr ac wedi dangos i ni sut i gadw’n ddiogel ar-lein, a hynny trwy gyfrwng cyflwyniad ar ddiogelwch ar y Rhyngrwyd ac awgrymiadau rhwydd y gall ein preswylwyr eu defnyddio”