Cartref Gofal Woffington House
Cartref gofal arloesol i bobl hŷn yn Nhredegar yw Woffington House. Mae'r cartref gofal wedi datblygu partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol, lle mae plant ysgol yn ymweld yn rheolaidd â'r preswylwyr.
Mae plant o Ysgol Gynradd Georgetown wedi bod yn gweithredu fel Arwyr Digidol, gan ddod yn ffrind i’r preswylwyr a dangos iddynt sut i ddefnyddio technoleg, gan ddefnyddio llechi wedi’u benthyg gan Gymunedau Digidol Cymru. Mae’r preswylwyr yn arbennig yn mwynhau ymweld ar-lein â lleoedd yr oeddent yn arfer ymweld â nhw.
Mae Ken (nid ei enw go iawn) wedi byw yn Woffington House ers dros ddwy flynedd. Nid oes ganddo deulu ac nid oes unrhyw un yn ymweld ag ef. Mae’n dioddef o bryder, iselder ysgafn a dementia. Weithiau, byddai’n cnoi cymalau ei fysedd ac yn bwrw fframiau drysau am ei fod yn teimlo’n rhwystredig. Rhoddwyd Lorazepam iddo pan oedd ei angen.
Gan ddefnyddio iPad a sbectol Realiti Rhithwir, mae Ken wedi cael cyfle i ailymweld ag Aberystwyth yn 1965 ac i fynd ar ‘rollercoaster’. Mae wrth ei fodd hefyd yn chwilio am ganeuon gan ddefnyddio YouTube. Mae iechyd a llesiant Ken wedi gwella’n sylweddol ac nid yw bellach yn defnyddio meddyginiaethau gwrthseicotig.
Mae Ken hefyd wedi bod yn ymchwilio i rasio colomennod gyda’r plant. Mae’r plant yn bwriadu dod i’r cartref ac ehangu’r gweithgaredd drwy ryddhau colomennod rasio o faes parcio’r cartref gofal. Mae diddordeb Ken wedi dod yn fyw o ganlyniad i’r cynllun Arwyr Digidol.
Mae profiad Ken yn nodweddiadol o brofiadau pobl eraill yn y cartref gofal, lle mae’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig “yn ôl yr angen” wedi lleihau 100%. Mae nifer yr achosion o bobl yn syrthio hefyd wedi lleihau’n sylweddol ac mae nifer yr ambiwlansys a gaiff eu galw (sy’n costio £300 fesul galwad i’r GIG) wedi lleihau 28%. At hynny, mae morâl y staff wedi gwella – ac mae plant yr ysgol gynradd yn dweud eu bod am weithio yn y proffesiynau gofal pan fyddant yn hŷn