Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynllun benthyca gliniaduron yn helpu mam sengl i sicrhau ei swydd ddelfrydol mewn meithrinfa

Mae menyw o Wrecsam gam yn nes at gael ei swydd ddelfrydol fel meithrinfa diolch i gynllun sy’n caniatáu i bobl sydd allan o waith fenthyca offer TG.

Nursery worker talking to children

Manteisiodd Sarah McCormick, 31, ar gynllun benthyca gliniaduron a ariennir gan y llywodraeth i gwblhau cymwysterau a roddodd hi mewn safle ardderchog ar gyfer gyrfa fel cynorthwyydd meithrin.

Roedd y fam-i-un ar Gredyd Cynhwysol ers tair blynedd ac yn gweithio ym maes manwerthu ond nid oedd ei hen swydd yn ddigon hyblyg i ganiatáu iddi ofalu am ei mab a phan fynegodd ddiddordeb mewn gofal plant fe’i cyfeiriwyd at Gymunedau am Waith a Mwy (CfW+) gan ei hyfforddwr gwaith.

Mae CfW+ yn wasanaeth cymorth cyflogaeth yn y gymuned sy’n gweithio i gynyddu cyflogadwyedd pobl sydd mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi ac sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag manteisio ar hyfforddiant a chyflogaeth. Gall CfW+ ddarparu cymorth i helpu i fagu hyder, ennill profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ail-ysgrifennu CV.

Meddai Sarah: “Roeddwn i wir eisiau gwaith rhan amser neu rywbeth oedd yn hyblyg er mwyn i mi allu bod yna i ofalu am fy mab.

“Roeddwn i wedi gweithio mewn ysgolion yn ystod fy mhrofiad gwaith pan oeddwn i yn yr ysgol ac roeddwn i wrth fy modd, a bob amser eisiau dychwelyd i weithio gyda phlant ond doedd gen i ‘mo’r sgiliau na’r cymwysterau.”

Cynghorwyd Sarah gan CfW+ i wneud cais i’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) a oedd yn chwilio am bobl i ymgeisio am eu prosiect Childcare Works, sy’n cynnig hyfforddiant a chyflogaeth â chefnogaeth mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar.

Ond am ei bod wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ers cryn amser, allai Sarah ddim fforddio gliniadur na chyfrifiadur ei hun i gwblhau’r cymwysterau priodol ar gyfer y swydd.

Awgrymodd Jo Pearce, mentor cyflogaeth Sarah yn CfW+ fod Sarah’n benthyca Chromebook drwy’r Cynllun Dyfeisiau Digidol.

“Rydw i mor ddiolchgar am y Chromebook ges i ei fenthyg, agorodd gymaint mwy o gyfle i mi a phrofais i fy hun drwy gwblhau’r cymwysterau fy mod yn gallu gwneud y gwaith rwy’n ei garu,” meddai Sarah.

Llwyddodd Sarah i gwblhau cymhwyster hylendid bwyd ac arlwyo yn ogystal ag un ym maes diogelu plant a sicrhau contract hyfforddi 16 wythnos gyda phrosiect Childcare Works.

“Oherwydd arweiniad Cymunedau am Waith a Mwy a mynediad i’r Chromebook, llwyddais i gael lleoliad gydag NDNA ac roeddwn i wrth fy modd,” meddai.

“Mae wedi rhoi hwb go iawn i’m hyder i, ac rydw i wedi ennill cymaint o sgiliau newydd nad oeddwn i’n meddwl oedd yn bosibl nes i mi weithio gyda CfW+.

“Mae’r cynllun dyfeisiau digidol nid yn unig wedi rhoi’r sgiliau i mi fynd i mewn i’r math o waith rydw i wedi bod â diddordeb ynddo ers erioed, ond mae hefyd wedi ei gwneud yn bosib i mi ddewis oriau gwaith hyblyg fel y gallaf i fod yna i’m mab.

Mae Sarah wedi cwblhau ei chwrs gydag NDNA yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd mae gydag asiantaeth sy’n ei helpu i gael rolau cynorthwyydd meithrin.