Arwyr Digidol Santes Fair yn helpu aelodau Men’s Shed i fynd ar-lein
Roedd gan ddisgyblion o ysgol gynradd Santes Fair yng Nghaergybi rôl weithredol yn helpu gweledigaeth yr ysgol am ddiogelwch ar-lein gyda’u cyfoedion. Ond roeddwn nhw hefyd yn hapus i helpu aelodau’r grŵp Men’s Shed lleol i gyflawni mwy gyda thechnoleg.
Mae Men’s Sheds yn fannau cymunedol i ddynion gysylltu, sgwrsio a chreu gyda’i gilydd. Mae’r gweithgareddau’n aml yn debyg i rai siediau gardd, ond ar gyfer grwpiau o ddynion i fwynhau gyda’i gilydd. Maen nhw’n helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd ond, yn bwysicaf oll, maen nhw’n hwyl.
Sut
Rhoddodd Cymunedau Digidol Cymru hyfforddiant Arwyr Digidol i 23 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys pawb ym Mlwyddyn 6 ac arweinwyr digidol ym Mlynyddoedd 3-5. Yna, cafodd yr ysgol ei pharu â’r Men’s Shed lleol, Morlo Men’s Shed, gan Gynghorydd CDC, Lon Mosely, a threfnwyd cyfarfod dechreuol rhwng y ddau grŵp.
Effaith
O fewn yr ysgol, mae’r Arwyr wedi ymgymryd â nifer o rolau, fel adolygu apiau iPad, creu fideos, gofalu am offer, adrodd ar bryderon a chefnogi eu cyfoedion wrth ddefnyddio offer digidol.
Trwy ymweld â’r grŵp Men’s Shed, mae’r Arwyr wedi llwyddo i effeithio ar eu cymuned ehangach.
Dywedodd athrawes Blwyddyn 6, Miss Ford, “Helpodd y plant y dynion i ddatblygu eu sgiliau ar eu iPads, a rhoddon nhw gyngor ar sut i gael mynediad i gyfrif e-bost, gwefannau ac apiau yn ddiogel. Cafodd bawb fwynhad mawr o’r prynhawn. Mae’r ddau grŵp yn edrych ymlaen at gwrdd eto i gymryd rhan mewn prosiect creadigol ar y cyd.”
Dywedodd Robert Higgins, sy’n aelod o Morlo Men’s Shed a dderbyniodd gymorth, “Cymerodd y plant a’u hathrawes Miss Ford brynhawn o’r ysgol i addysgu sgiliau cyfrifiadurol i ni. Roedden nhw’n hen law ar y cyfrifiaduron! Cefais brynhawn hwyliog iawn. Dylwn i allu torri a gludo ar y cyfrifiadur o’r diwedd! Roedden nhw’n glod i’r ysgol. Mae pawb wedi dysgu rhywbeth a chael hwyl wrth wneud hynny.”