Mae’r pandemig Coronafeirws yn golygu bod cyfyngiadau symud ar ein cartrefi gofal. Ni all preswylwyr weld gweithwyr iechyd proffesiynol wyneb yn wyneb, ac nid ydynt chwaith yn gallu cael ymweliadau gan deulu a ffrindiau. Dyfeisiau digidol bellach yw’r brif ffordd y gall pobl gael mynediad at ymgynghoriadau iechyd pwysig neu gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid.
Cefnogi cartrefi gofal yn ystod y pandemig Coronafeirws
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chartrefi gofal ers blynyddoedd lawer, ond mae argyfwng Covid-19 wedi creu angen digynsail a brys am ein cymorth. Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr yn y GIG, TEC Cymru a phartneriaid eraill i helpu staff cartrefi gofal.
- Diolch i arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, rydym yn darparu dyfeisiau tabled i gartrefi gofal. Daw’r tabledi â data symudol arnynt, os oes angen, ac amrywiaeth o apiau defnyddiol.
- Rydym yn darparu hyfforddiant i staff cartrefi gofal fel y gallant helpu eu preswylwyr i ddefnyddio’r dyfeisiau tabled. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi darparu hyfforddiant i dros 1000 o gartrefi gofal ledled Cymru.
Mae’r cymorth hwn yn cael ei gynnig i sicrhau bod gan gartrefi gofal bopeth y mae ei angen arnynt i ddefnyddio Gwasanaeth Ymgynghori dros Fideo GIG Cymru. Darperir y gwasanaeth hwn trwy blatfform cyfathrebu o’r enw Attend Anywhere, a bydd yn cael ei ddefnyddio gan feddygfeydd teulu, adrannau cleifion allanol ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill, gan alluogi preswylwyr i gael mynediad at ymgynghoriadau meddygol o’r cartref heb fod angen teithio.
Yn ogystal â galluogi preswylwyr cartrefi gofal i gael mynediad at y gwasanaeth ymgynghori dros fideo, bydd ein gwaith hefyd yn golygu y gall preswylwyr cartrefi gofal gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a chymdogion. Rydym yn darparu hyfforddiant ar y modd y gall cartrefi gofal helpu eu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad, ac yn rhannu adnoddau defnyddiol. Bydd hyn yn helpu i leihau teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd, ac yn lleddfu pryder i’r preswylwyr a’u hanwyliaid.
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n cymorth, a rhyngom rydym wedi cysylltu â dros 1000 o gartrefi gofal ledled Cymru. Ni allwn ymateb yn uniongyrchol i geisiadau gan bobl a sefydliadau.