Ar y ffordd i amlygu Cyfeillion Digidol
Rydym ni wedi bod wrthi’n datblygu’r fenter Cyfeillion Digidol ers misoedd, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, fel prosiect enghreifftiol Bevan, a gefnogir gan Gomisiwn Bevan.
Mae Marc Davies, Rheolwr Prosiect Cymunedau Digidol Cymru, wedi bod ym mhen blaen y fenter hon, yn datblygu’r syniad gwreiddiol. Y mis hwn, rydym ni’n edrych ar enghreifftiau o sut gall cynhwysiant digidol alluogi cydlyniad cymunedol – gan ddod â phobl at ei gilydd am resymau cadarnhaol.
Mae Marc wedi darparu’r diweddariad hwn, sy’n ymwneud â’r cynnydd diweddaraf i Gyfeillion Digidol:
Cynhaliom ein digwyddiad hyfforddi cyd-gynhyrchu cyntaf ar ddechrau mis Ionawr, gyda staff a gwirfoddolwyr o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan – rhaglen Ffrind i Mi. Roedd yn canolbwyntio ar drafod ein sesiwn hyfforddi a chael teimlad ac adborth am sut gall Cyfeillion Digidol ddeall yr ymagwedd, a pha elfennau o’r ymyriad all achosi pryder iddyn nhw.
Roedd hyn yn hynod o gynhyrchiol, gyda rhai o’r Cyfeillion dan hyfforddiant yn mynegi ychydig o bryder ynghylch cefnogi unigolion i wneud gweithgareddau cymhleth, fel bancio ar y rhyngrwyd. Fe wnaethom ni sicrhau’r Cyfeillion bod gweithgareddau cymhleth yn nod pell i rywun sydd erioed wedi bod ar-lein.
Y prif elfennau a’r cymorth lefel mynediad y byddai Cyfaill yn ei gynnig fyddai rhannu a dangos tudalennau gwe, dangos delweddau a chlipiau fideo byw sy’n berthnasol i’r unigolyn yn cael cymorth. Nod y Cyfaill fyddai arddangos a rhannu, gan anelu at brofiad pleserus yn defnyddio’r we a chael blas ar beth all y we ei gynnig.
Fe wnaeth y sgwrs hon ein hannog ni i lunio cydweddiad ag ‘ysgol’, gyda phob cam o’r ysgol yn gamau neu’n gynnydd y Cyfeillion yn rhannu’r we gyda phobl eraill. Caiff hyn ei rannu yn fy niweddariad nesaf.
Mae’r tîm hyfforddi a minnau yn hapus gyda’r cynnydd hyd yn hyn. Byddwn ni’n parhau i gyflawni ychydig mwy o sesiynau cyd-gynhyrchu i ddatblygu’r cysyniad neu fodel hyd yn oed ymhellach, cyn eu cyfieithu a’u rhyddhau i’r cyhoedd. Rwy’n hyderus, erbyn y gwanwyn 2019, bydd gennym ni becyn hyfforddi a dolenni cymorth i gyd-fynd ag ef, a fydd yn addas at y diben. Byddwn ni hefyd yn adolygu’n rheolaidd, gyda’r nod o’i wella’n barhaus.
Mae gwaith y Cyfeillion yn ymwneud â rhoi cyfle i unigolion archwilio sut gall y we gynnig agwedd gadarnhaol ac ymarferol iddyn nhw, a all gefnogi eu hiechyd a’u lles. Mae cymorth Cyfeillion yn estyn allan i’r 15% o oedolion yng Nghymru sydd all-lein. Mae’r ystadegau’n ein hysbysu ni bod y mwyafrif o’r rhain (15%) dros 65 oed. Rydym ni’n ymwybodol, wrth heneiddio, mae pobl yn dioddef cymhlethdodau iechyd ychwanegol. Ffocws y cymorth Cyfeillion yw sicrhau bod cymaint â phosibl o’r 15% hyn yn cael cyfle i ymgysylltu â gwasanaeth iechyd sy’n parhau i gael ei foderneiddio. Nid oes mecanwaith cymorth prif ffrwd arall ar gael ar gyfer y garfan hon, a chyrchu’r gwasanaethau cyhoeddus niferus sydd wedi cael eu trawsffurfio (yn ogystal â llu o ddyfeisiau iechyd digidol prif ffrwd). Rydym ni’n galw ar ewyllys da yr 85% sydd ar-lein yng Nghymru i roi help llaw i’r rheiny a fydd yn elwa fwyaf trwy ddefnyddio technoleg at ddibenion iechyd a lles.
Rhaid i ni fod yn bragmatig am y rheiny y mae’r Cyfeillion yn ceisio eu cynorthwyo. Rwyf wastad yn dweud bod yn rhaid i ni ddeall sefyllfa’r rheiny sydd all-lein. Meddyliwch yn ôl i’r cyfnod pan ddefnyddioch chi gyfrifiadur am y tro cyntaf, yn methu cyrchu’r we nac anfon neges e-bost, na mynd i wefan. Er y gall pobl ddysgu’n gyflym, mae angen i ni fod yn gydymdeimladol a chaniatáu amser i’r bobl hyn ddysgu ac ennill hyder. Mae cymuned gydlynol yn un lle na chaiff neb eu gadael allan na methu cymryd rhan. Mae cael y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio technoleg yn un elfen o nifer a all helpu meithrin cymuned gysylltiedig.
Rydym ni wedi sôn o’r blaen, y nod yw tynnu ar ewyllys da pobl Cymru i fod yn Gyfeillion Digidol. Nid oes unrhyw bwysau i fod yn wirfoddolwr amser llawn na gwneud ymyriadau technegol heriol. Mae’n iawn os mai helpu un unigolyn rydych chi’n ei adnabod, aelod o’r teulu, cymydog neu gydweithiwr i archwilio beth sydd gan y we i’w gynnig byddwch chi’n ei wneud.
Rhaid i ni gofio bob amser:
“Y rheiny sydd bellach i ffwrdd o’r sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r rhyngrwyd yw’r rhai a fyddai’n elwa fwyaf”.
Os ydych chi’n mwynhau defnyddio’r rhyngrwyd, rwy’n hyderus, os dilynwch yr ymagwedd rydym ni’n ei datblygu, byddwch chi’n Gyfaill Digidol delfrydol. Cysylltwch â ni i helpu wneud Cymru yn Genedl Ddigidol yn wir.