Neidiwch i’r prif gynnwys

Datganiad hawlfraint

© Hawlfraint y Goron 2016

Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd sydd i’w gweld ar y safle hwn yn cael ei diogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall.

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth sy’n ymddangos ar y wefan hon (ac eithrio logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae’r Drwydded Llywodraeth Agored i’w gweld ar wefan Archifau Gwladol (dolen allanol), neu gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn: Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostio psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Rhaid ichi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os bydd unrhyw un o’r eitemau ar y safle hwn sydd dan hawlfraint y Goron yn cael ei hailgyhoeddi neu ei chopïo ar gyfer pobl eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws o ran hawlfraint (er enghraifft, Y Swyddfa Eiddo Deallusol © Hawlfraint y Goron 2018).  Rydym yn eich annog hefyd i greu hyperddolenni at y wefan hon.

Nid yw’r hawl i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn cynnwys deunydd ar y safle hwn y nodwyd bod gan drydydd parti hawlfraint arno. Byddai angen cael caniatâd deiliaid yr hawlfraint honno i atgynhyrchu deunydd o’r fath.

Ein logo

Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio ein logo ac ni chaiff unigolion na sefydliadau eraill ei ddefnyddio heb ganiatâd ffurfiol gennym ni.

I ofyn am ganiatâd i ddefnyddio ein logo, anfonwch e-bost i brandingqueries@cymru.gsi.gov.uk