Arwyr Digidol
Gwnewch wahaniaeth
Mae Cymunedau Digidol Cymru – Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn uno pobl hŷn ac iau er mwyn iddynt ddefnyddio a mwynhau technoleg.
O ble daw Arwyr Digidol?
- Ysgolion (7 oed – Bac Cymru)
- Colegau a Phrifysgolion
- Sgowtiaid/Geidiaid
- Cadetiaid yr heddlu
- a rhagor
Sut mae’n gweithio?
- Mae Cymunedau Digidol Cymru’n hyfforddi’r Arwyr fel y gallan nhw helpu eraill i ddefnyddio’r we’n ddiogel.
- Mae arwyr yn gysylltiedig â sefydliad cymunedol.
- Mae’r Arwyr yn cynorthwyo’r bobl o’r sefydliad hwn i fynd ar-lein.
Mae pawb yn elwa
- Mae Arwyr Digidol yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu
- Mae’r bobl a gefnogir yn cael hwyl ac yn dysgu defnyddio’r we
- Mae’r ddau barti’n datblygu perthnasoedd o fewn eu cymuned leol