Neidiwch i’r prif gynnwys

Pam mae bod ar-lein mor fuddiol i eraill, ac nid dim ond ni ein hunain – Stori Shirmeen

Mae Shirmeen yn rhannu’i phrofiad heriol o addasu i weithio gartref, ei hoffter am apiau a pham fod mynd ar-lein yn ddefnyddiol iawn nid yn unig i ni ond hefyd i’n hanwyliaid.

Lady holding a digital watch

Y peth olaf roedd Shirmeen Khan, fel pawb arall, yn ei ddisgwyl ddeunaw mis yn ôl oedd cyfnod clo cenedlaethol a chael gwybod bod rhaid aros gartref. Yng nghanol yr holl bryder a’r ansicrwydd hwn, mae’r byd ar-lein wedi bod yn un peth sy’n rhoi gobaith iddi.

Gan weithio fel gweinyddwr cwmni yswiriant, bu’n rhaid i Shirmeen ddechrau gweithio o bell yn syth. Ar adegau, mae hi wedi gweld ceisio addasu i gyfarfodydd o bell a gweithio ar ei ffôn symudol a gliniadur yn anodd.

Dywedodd: “Mae gweithio gartref yn ystod y pandemig wedi golygu bod cael dyfais yn hanfodol. Y dyddiau hyn mae fy holl waith ar-lein, felly dw i wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio apiau fel Teams a Zoom i drefnu cyfarfodydd o bell gyda fy nghydweithwyr. Mae o wedi bod yn anhygoel! Rydyn ni i gyd wedi cael amser caled ond hefyd wedi gallu cefnogi ein gilydd er ein bod ni ar wahân.”

Roedd gan Shirmeen gynorthwyydd wrth law os oedd hi’n cael trafferth gyda’r dechnoleg. “Fel arfer bydda i’n defnyddio apiau ar fy ffôn, ond weithiau dydyn nhw ddim yn hawdd eu defnyddio, a bydda i’n cael trafferth. Felly, yn aml bydda i’n gofyn i fy merch bedair ar ddeg oed am gymorth ac mae hi’n wych. Mae hi wedi dysgu llawer o bethau ei hun wrth wneud dosbarthiadau ar-lein gartref, ac felly mae hi’n rhoi’r wybodaeth honno i mi. Mae’n cymryd ychydig bach o amser i ddysgu ond ar ôl hynny mae’n dod mor hawdd!”

Default Text

Mae methu â gweld ei pherthnasau ym Mangladesh ers dros ddwy flynedd wedi gwneud iddi boeni am ddiogelwch ei mam a’i thad, felly mae’n ddiolchgar bod technoleg wedi galluogi iddynt gadw mewn cysylltiad dros y misoedd diwethaf.

Eglurodd: “Dw i’n defnyddio fy ffôn symudol i gyfathrebu â’m rhieni drwy apiau fel WhatsApp, Zoom neu Facetime sydd wedi rhoi tawelwch meddwl imi eu bod yn iawn. Ac wrth gwrs, maen nhw’n falch fy mod i’n iawn yma yng Nghymru.”

Mae Shirmeen yn pwysleisio bod bod ar-lein yn rhywbeth sy’n ddefnyddiol nid yn unig i chi, ond hefyd i’r rheini o’ch cwmpas chi, drwy ei gwneud hi’n haws cysylltu â phobl. Fel llawer o bobl eraill sydd heb allu gweld cydweithwyr mewn swyddfa o ddydd i ddydd neu dal i fyny ag anwyliaid ar-lein, mae hi wedi teimlo’n ynysig iawn yn ystod cyfyngiadau’r cyfnodau clo heb dechnoleg i helpu. Dyna pam mae hi’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n meddwl am y ffordd mae eraill yn cysylltu â ni yn y byd cyflym rydym yn byw ynddo heddiw.

Dywedodd Shirmeen: “Dw i’n annog pawb i gael o leiaf un ddyfais – boed yn ffôn symudol sylfaenol gyda chysylltiad rhyngrwyd neu gyfrifiadur teulu – fel y gallant gysylltu â’r byd sy’n symud yn gyflymach fyth. Mae’n fendith i ni gael technoleg fodern nawr. Dylai pob un ohonom ei ddefnyddio i wneud ein bywydau ein hunain, a bywydau’r rhai o’n cwmpas yn haws.”

Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.

Darganfyddwch fwy
Young girl looking at smart phone