O ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol o ran hwyl i greu busnes llwyddiannus, mae David Kemmer-Amoda yn rhannu sut mae mynd ar-lein yn ei helpu i chwalu stereoteipiau negyddol am ddynion ifanc du.
Mynd ar-lein i chwalu stereoteipiau negyddol – stori David
Fel llawer sydd wedi tyfu i fyny yn yr unfed ganrif ar hugain, y cyfryngau cymdeithasol a helpodd David Kemmer-Amoda i ddarganfod y rhyngrwyd. O rannu memynnau i fideos YouTube, aeth David ar-lein i ddechrau i gael hwyl gyda’i ffrindiau. Ond fel dyn du ifanc, dechreuodd David gael ei ddadrithio gan rai o’r pethau negyddol yr oedd yn eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig mewn adrannau sylwadau ar-lein.
Esboniodd: “Gallwch chi fynd ar goll yn nyfnderoedd tywyll Twitter a’r sylwadau hiliol ar YouTube. Roeddwn i’n gwastraffu llawer o fy egni ac roedd angen i mi fynd oddi ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfnod.”
Fodd bynnag, y penderfyniad y llynedd i ddechrau ei fusnes cerddoriaeth a chyfryngau ei hun, Treble Media Group, a ysgogodd yr entrepreneur i fynd yn ôl ar-lein. Mae Treble Media yn cynhyrchu asedau creadigol ar gyfer busnesau ar-lein, ac roedd David yn gwybod ei fod angen presenoldeb cryf ar y we i gyrraedd ei gynulleidfa darged.
Ers hynny, mae David wedi bod yn ymgysylltu’n rheolaidd â sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan eu defnyddio fel platfform i arddangos ei frand ac amcanion ei fusnes. Mae’n defnyddio sianeli, yn enwedig LinkedIn, i gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill yn ei ddiwydiant ac i feithrin cysylltiadau sy’n arwain at gydweithio a rhannu syniadau. Mae David yn dweud hefyd mai’r rhyngrwyd wnaeth ei alluogi i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ei fusnes a’i wneud yn llwyddiant.
Dywedodd David: “Yn yr hen ddyddiau, roedd rhaid i bobl fynd i lyfrgell a chwilota drwy lyfrau i ddod o hyd i’r wybodaeth yr oedd ei hangen arnyn nhw. Nawr, rwy’n defnyddio peiriannau chwilio i ddysgu mwy am bynciau sydd o ddiddordeb i mi, ac rwy’n dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arna i’n gyflym. Cyn belled â’ch bod chi’n gallu defnyddio Google a YouTube a bod y brwdfrydedd gennych chi, mae’r rhyngrwyd yn lle gwych i ddysgu pethau!”
Mae’n defnyddio’r rhyngrwyd i gael y newyddion diweddaraf a chadw mewn cysylltiad â’i deulu a’i wreiddiau Nigeriaidd hefyd. Mae dod yn ôl ar-lein wedi caniatáu iddo ymladd rhywfaint o’r rhagfarn a achosodd iddo fynd oddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf.
Mae’n esbonio: “Cefais fy ysbrydoli i ddechrau fy musnes ar ôl sylweddoli bod yr hinsawdd wleidyddol a’r cyfryngau yn atgyfnerthu stereoteipiau negyddol am ddynion ifanc du. Cyn hynny, cymerais i seibiant o’r rhyngrwyd, ond mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i mi fod angen i’m llais gael ei glywed.
“Mae fy musnes, Treble Media, yn arddangos enghreifftiau cadarnhaol o fodelau rôl du yn y gymuned. Ei nod yw ysbrydoli bechgyn ifanc du a’u hatgoffa nhw, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n ffitio yn y byd fel y mae, os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi’ch maglu gan ganfyddiadau cymdeithas ohonoch chi, y gallwch chi godi uwchlaw hynny.
Ychwanega David: “Does dim angen i chi aros ar gyrion cymdeithas, dangoswch i bawb y gallwch chi wneud rhywbeth gwerth chweil a’ch bod chi’n glod i’ch gwlad a’ch cymuned. Mae’r rhyngrwyd yn fy helpu i rannu’r neges honno.”
Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.