Mae’r rhyngrwyd ar gyfer pawb, ond mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu mwy o heriau nag eraill wrth geisio mynd ar-lein. Nod Cymunedau Cysylltiedig Digidol yw newid hyn drwy gynorthwyo’r cymunedau hyn i fanteisio ar bopeth sydd gan y byd digidol i’w gynnig.
Cymunedau Cysylltiedig Digidol
Bydd ein cynllun peilot unigryw yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru i helpu pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu i fynd ar-lein, agor byd o gyfleoedd i’r cymunedau hyn a dod â phobl at ei gilydd.
Manteision mynd ar-lein
Nid yw 10% o bobl yng Nghymru ar-lein. P’un a ydynt yn cael eu digalonni gan rwystr iaith neu ddiffyg hyder yn eu sgiliau technoleg, mae llawer o resymau pam mae rhai cymunedau’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r rhyngrwyd. Ond wrth i’r byd ddod yn fwyfwy digidol, mae llawer o fanteision i fynd ar-lein, gan gynnwys:
- Chwilio am swyddi
- Addysg a dysgu sgiliau newydd
- Arbed arian
- Cael mynediad at wasanaethau pwysig
- Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
Dyma rai o’r ffyrdd y gall defnyddio’r rhyngrwyd wneud bywyd yn well i bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, ond mae angen sefydliadau gofalgar arnom i helpu’r cymunedau hyn i gysylltu.
Sut gall fy sefydliad helpu?
Ydych chi’n awyddus i wneud daioni? Mae ein cynllun peilot unigryw’n chwilio am 10 sefydliad sy’n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ymuno â’r prosiect. Bydd y sefydliadau hyn yn darparu hyfforddiant sgiliau digidol i gymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol ledled Cymru, a byddant yn cael eu dewis yn seiliedig ar eu gwerthoedd a’u hawydd i gael effaith gadarnhaol.
Sut beth yw’r rhaglen hyfforddi?
Mae hyfforddiant am ddim i sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ac mae’n gyfle i’ch staff wella eu sgiliau digidol, gan helpu eraill i adeiladu eu sgiliau eu hunain yr un pryd. Mae’r rhaglen yn para chwe mis a bydd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy’n helpu i chwalu rhwystrau a chael cymunedau ar-lein. Rhwng sesiynau hyfforddi misol, bydd Cymunedau Digidol Cymru yn cynnal fforymau cydweithredol. Yma, gallwch gysylltu â sefydliadau eraill sy’n gweithio ar y prosiect, i rannu eich buddugoliaethau, atgyfeirio i wasanaethau defnyddiol ac adeiladu rhwydwaith cymorth cryf ar gyfer cymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. I gwblhau’r cwrs, byddwn yn cynnal fforwm dathlu terfynol lle gallwch chi ddathlu eich sgiliau newydd a’r pethau da rydych chi wedi’u cyflawni dros y chwe mis diwethaf!
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:
- Dod i’ch adnabod chi
- Hanfodion y We / Dyfeisiau Gwahanol
- Diogelwch Ar-lein
- Meddwl yn Feirniadol
- Ysbrydoli Ymgysylltu â Dinasyddion yn Ddigidol
- Creu/ Cynnal Cymheiriaid Digidol yn eich Cymunedau
Clywed gan y cymunedau eu hunain
Dyma sut mae mynd ar-lein wedi gwella bywydau pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru…
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gymunedau Cysylltiedig Digidol, e-bostiwch DCWtraining@wales.coop neu ffoniwch 0300 111 5050.