Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe yn cynnig achubiaeth ddigidol hanfodol yn ystod pandemig Covid-19
Derbyniodd gwirfoddolwyr SCVS, hyfforddiant gan Gymunedau Digidol Cymru, i gefnogi bobl i ddatblygu eu hyder i ddefnyddio technoleg er mwyn cael gafael ar feddyginiaeth, cysylltu â'u meddyg teulu, dod o hyd i wybodaeth iechyd, a chadw mewn cysylltiad gyda pherthnasau a ffrindiau.
Mae pobl sydd heb yr hyder i ddefnyddio dyfeisiau digidol neu’r sgiliau sy’n ofynnol i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn hyderus, mewn mwy o berygl o unigrwydd ac arwahanrwydd. Amlygwyd y mater hwn yn arbennig yn ystod pandemig COVID-19, wrth i lawer o bobl heb gymhwysedd digidol deimlo eu bod wedi colli cysylltiad ffrindiau a theulu dros nos. Ond diolch i wirfoddolwyr o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), roedd pobl yn gallu cael y gefnogaeth angenrheidiol i fentro ar-lein.
Derbyniodd gwirfoddolwyr SCVS, hyfforddiant gan Gymunedau Digidol Cymru, i gefnogi bobl i ddatblygu eu hyder i ddefnyddio technoleg er mwyn cael gafael ar feddyginiaeth, cysylltu â’u meddyg teulu, dod o hyd i wybodaeth iechyd, a chadw mewn cysylltiad gyda pherthnasau a ffrindiau.
Un fenyw a oedd angen eu cefnogaeth oedd ‘M’. Roedd teulu M yn byw ymhell i ffwrdd ac roedd hi’n ynysig iawn yn ystod y cyfnod clo. Er bod ganddi iPad, nid oedd hi wir yn gwybod sut i’w ddefnyddio. Roedd M eisiau cefnogaeth i allu wneud galwadau fideo ac aros mewn cysylltiad â’i theulu, yn enwedig ei mab yng Nghanada a’i hwyrion.
Cafodd M ei baru â’r gwirfoddolwr digidol Suzanne. Bob wythnos, roedd Suzanne yn rhoi caniad iddi gan estyn cymorth iddi i ddechrau ar yr iPad. Er bod hyn yn cymryd amser ac amynedd, o fewn cyfnod o 3 mis o gefnogaeth wythnosol gan Suzanne, roedd M wedi dysgu sut i anfon e-byst, defnyddio FaceTime, a chymryd a ffeilio ffotograffau. Roedd Suzanne wedi siarad â M ynglŷn â sut i ddefnyddio’r prif apiau ar yr iPad yn ogystal â’i dysgu sut i ddefnyddio YouTube.
Dywedodd M, “Roedd Suzanne yn hynod amyneddgar ac eglurodd bopeth mewn ffordd y gallwn ei ddeall. Roedd yn anoddach dysgu dros y ffôn ond roedd Suzanne yn athrawes berffaith. ”
Bellach gall M gadw mewn cysylltiad gyda’i theulu trwy FaceTime ac e-byst. Mae hi’n gallu gweld lluniau o’i phlant a’i hwyrion yn rheolaidd sy’n gwneud iddi deimlo yn rhan o’u bywydau ac yn llai ynysig. Mae hi hefyd yn cael diweddariadau gan ei heglwys leol sy’n golygu ei bod hi’n teimlo’n rhan o’r gymuned ac yn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau’r eglwys.
Dywed M, “Mae’r prosiect Cymorth Digidol wedi bod yn amhrisiadwy. Heb gymorth Suzanne byddwn yn dal i fod yn yr un cwch. Mae hi wedi fy helpu i ddysgu llawer ac mae’r gefnogaeth wedi fy nghadw i mewn cysylltiad â’r byd tu allan. ”
I ddarganfod mwy, i gael cefnogaeth neu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wirfoddoli ewch i https://www.scvs.org.uk/scvs-digi-supp-proj