Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW) yn grŵp aml-sector o sefydliadau, sy’n cysylltu bobl o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, trydydd, academaidd a pholisi yng Nghymru, i gydgysylltu a hyrwyddo gweithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru dan un faner genedlaethol. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i gymryd camau ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru yn sylweddol.
Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
Pam ymuno?
Mae bod yn aelod o’r Gynghrair yn gyfle i gymryd rhan a llunio’r gwaith o ddarparu menter arloesol sy’n ysbrydoli gweithredu cynhwysiant digidol ac yn gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ymgysylltu â gwasanaethau digidol a’r byd digidol.
Y Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio
Mae’r Gynghrair yn cynnwys Rhwydwaith a Grŵp Llywio. Mae’r Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio yn gweithio ochr yn ochr dan un faner, gan fanteisio ar gryfderau ei gilydd, er mwyn creu mudiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr terfynol a’r strategaeth lefel uwch.
Mae Rhwydwaith DIAW yn agored i bob sefydliad sy'n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru.
Mae aelodau'r Grŵp Llywio yn arwain y Gynghrair i sicrhau bod Cymru'n dod yn esiampl o gynhwysiant digidol.
Lansiwyd DIAW yn swyddogol ar 15 Hydref 2020. Mae adnoddau’r digwyddiad ar gael isod. Ers y lansiad, rydym wedi cynyddu ein haelodaeth ac yn edrych ymlaen at yr effaith y gallwn ei chael ar yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. I amlinellu ein meysydd blaenoriaeth, cyhoeddodd y Gynghrair ‘O Gynhwysiant i Gydnerthedd’ fis Mawrth 2021, gan nodi ei 5 maes blaenoriaeth.
Os oes gan eich sefydliad syniadau neu brofiad gwych o wella cynhwysiant digidol neu os yw’n awyddus i ddysgu beth mae eraill yn ei wneud, beth am ymuno â ni? Bydden ni wrth ein boddau’n clywed oddi wrthych chi! Dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu anfonwch e-bost atom diaw@cwmpas.coop.