Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae Ysgol Gynradd St Julian yn cynnal rhaglen arweinwyr digidol i gefnogi ei disgyblion mwyaf digidol

Bu Cymunedau Digidol Cymru yn hyfforddi'r disgyblion i helpu pobl leol i fynd ar-lein a meithrin sgiliau digidol.

Crynodeb

Mae Ysgol Gynradd St Julian yn cynnal rhaglen arweinwyr digidol i gefnogi ei disgyblion mwyaf digidol. Ar ben hynny, maen nhw’n cynnal sawl prosiect pontio’r cenedlaethau gyda’r cartref preswyl gyferbyn â’r ysgol.

Bu Cymunedau Digidol Cymru yn hyfforddi’r disgyblion i helpu pobl leol i fynd ar-lein a meithrin sgiliau digidol. Yna penderfynodd yr Arwyr Digidol newydd eu hyfforddi fynd ati i greu prosiect digidol newydd rhyngenedlaethol.

Fe wnaeth yr athrawon baratoi’r disgyblion i drosglwyddo sgil newydd bob wythnos, gan ddangos i denantiaid sut i ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, yn ogystal â’u haddysgu am apiau, gwefannau a gwasanaethau ar-lein newydd.

Yn ogystal â helpu tenantiaid i oresgyn eu hofnau a magu hyder wrth ddefnyddio adnoddau digidol, cafodd y naill a’r llall fwynhad mawr o gymryd rhan yn y sesiynau. Mae pawb fu’n rhan o’r fenter wedi elwa ar rannu profiadau, dysgu a chwmnïaeth.

Pa broblem oedd angen mynd i’r afael â hi?

Mae gan Ysgol Gynradd St Julian raglen weithgareddau amlgenhedlaeth sy’n cynnwys ei disgyblion a thenantiaid cartref preswyl cyfagos, Cynllun Gofal Ychwanegol Glyn Anwen. Mae’n gysylltiad cryf sydd wedi’i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd, ac mae’r plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, o grwpiau darllen i gelf a chrefft.

Cynllun arall gan yr ysgol yw Arweinwyr Digidol, sy’n annog a chefnogi disgyblion sydd â diddordeb mewn technoleg i rannu eu sgiliau gydag aelodau eraill o gymuned yr ysgol.

Trwy ddod â’r ddwy raglen at ei gilydd a gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, mae’r ysgol wedi creu cynllun sy’n meithrin sgiliau a hyder ei disgyblion law yn llaw â chreu cyfle dysgu cymdeithasol a rheolaidd i denantiaid cartref Glyn Anwen.

Beth oedd yr ymyriad a sut wnaeth hynny weithio?

Defnyddiodd Cymunedau Digidol Cymru fodel arwyr digidol i greu prosiect pontio’r cenedlaethau gyda’r ysgol. Hyfforddwyd disgyblion o flynyddoedd pump a chwech i allu hyfforddi eraill a throsglwyddo eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol. Cafodd saith disgybl o raglen Arweinwyr Digidol yr ysgol eu hyfforddi’n Arwyr Digidol.

I ddechrau’r rhaglen, cynhaliodd yr ysgol ddigwyddiad gyda rhieni a gofalwyr lle bu’r disgyblion yn cyflwyno cyngor ar seiberddiogelwch, rheoli cyfrineiriau a chadw’n ddiogel ar-lein. Yn sgîl y llwyddiant hwnnw, gwelodd yr ysgol gyfle i ddefnyddio ei pherthynas hirsefydlog â chartref Glyn Anwen.

Bu’r plant yn ymweld bob wythnos o fis Ionawr tan ddiwedd y tymor ym mis Gorffennaf. Roedd pob sesiwn yn para 30 munud er mwyn cyd-fynd ag amserlen y cartref. Gan weithio un i un, anogwyd y plant i ganolbwyntio ar rannu sgìl newydd bob wythnos – o sut i adnabod wefan ddiogel a chadw’ch cyfrineiriau yn ddiogel i adnabod eiconau a defnyddio Google.

Wrth feithrin cyfeillgarwch, trodd sgyrsiau’n naturiol at ddiddordebau a hobïau’r tenantiaid ac roedd y disgyblion wedyn yn gallu defnyddio adnoddau ar-lein fel YouTube i ddod o hyd i gynnwys diddorol a pherthnasol i’w rannu.

“Ar un ymweliad, soniodd un fenyw ei bod angen chwilio am gar newydd. O fewn ychydig funudau, roedd y disgyblion yn ei dysgu hi sut i chwilio a dilyn Google Maps. Dro arall, maen nhw wedi helpu tenantiaid sy’n hoffi gwneud posau i ddod o hyd iddynt ar-lein, tynnu lluniau teuluol a’u rhannu wedyn neu weld beth yw rhagolygon y tywydd.”

Dan Frost, athro yn Ysgol Gynradd St Julian

Nawr, mae’r ysgol yn ailadrodd y rhaglen am ail flwyddyn gyda chymysgedd o ddisgyblion blwyddyn pump newydd a rhai o’r flwyddyn flaenorol sydd wedi symud ymlaen i flwyddyn chwech.

Beth oedd effaith yr ymyriad?

  • Roedd ymweliadau wythnosol a chydweithio un i un gyda’r un partner yn meithrin perthynas gryf dros amser.
  • Nid oedd disgwyl y byddai set benodol o sgiliau’n cael ei haddysgu a’i meistroli, yn hytrach roedd yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd bob wythnos y gallai’r tenantiaid roi cynnig arno wedyn.
  • Roedd hyn yn helpu i oresgyn ofnau tenantiaid hefyd ynghylch rhoi cynnig ar dechnoleg newydd a’u pryderon am gael pethau’n anghywir. Sylwodd athrawon ar gynnydd mewn hyder y naill ochr a’r llall o ganlyniad.
  • Wrth i amser fynd rhagddo, dechreuodd tenantiaid ddod â’u dyfeisiau a’u heriau eu hunain i’r disgyblion roi help llaw gyda nhw – popeth o anfon lluniau at y teulu i osod apiau dal i fyny er mwyn gwylio’r teledu ar iPad.

“Daeth menyw â’i ffôn draw a gofyn sut i dynnu hun-lun – felly dangosodd y plant iddi sut i droi’r camera rownd a gwenu! Mae nhw wrth eu boddau’n dangos iddynt sut mae pethau’n gweithio. Er mai dysgu sgiliau digidol ac ategu dysgu’r plant yw’r prif nod, mae cymaint mwy wedi deillio o hyn – cyfeillgarwch, cysylltiadau cymunedol, dealltwriaeth y disgyblion o alluoedd  gwahanol a dysgu sut i gyfathrebu. “

Dan Frost, athro yn Ysgol Gynradd St Julian

  • Enillodd yr ysgol y wobr Pencampwyr Arwyr Digidol yn 2019 ac ymweliad gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Beth oedd y canlyniad o ran sgiliau newydd, iechyd gwell a lles gwell?

  • Datblygodd y disgyblion ddealltwriaeth well o oedran a datblygu eu sgiliau empathi. Buon nhw’n meithrin cyfeillgarwch â’r to hŷn, oedd o fudd o ran magu hyder a sgiliau cyfathrebu.
  • Roedd yn gorgyffwrdd â’r cwricwlwm hefyd. Er enghraifft, rhannodd un o’r tenantiaid ei atgofion o’r ail ryfel byd wrth i’r plant ddysgu am hyn yn y dosbarth – ac mae’r plant yn mynd â’u prosiectau codio gyda nhw i’r cartref i’w dangos i’r tenantiaid.
  • Wrth weld eu hyder yn cynyddu, gofynnodd yr athrawon i’r disgyblion gyflwyno’r hyn roedden nhw wedi’i wneud yng ngwasanaeth llawn yr ysgol. Gwahoddwyd y tenantiaid draw hefyd.
  • Mae cyfeillgarwch a chwmnïaeth wedi bod o fudd mawr i’r naill ochr a’r llall. Pan adawodd rhai o’r arwyr digidol flwyddyn chwech i fynd i’r ysgol uwchradd, daeth y tenantiaid i’r ysgol gyda chardiau ac anrhegion i ddymuno’n dda iddynt.
  • I denantiaid â phroblemau symudedd, bu’r sesiynau’n gyfle gwerthfawr i ryngweithio’n rheolaidd ag ymwelwyr.
  • Mae’r bobl hŷn wedi dysgu sut i ddefnyddio mwy ar eu dyfeisiau eu hunain, fel ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron. Mae hyn wedi creu cyfleoedd newydd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau, cymorth i ddilyn diddordebau a chyfle i chwilio am amrywiaeth ehangach o adloniant i’w fwynhau.

“Roedd un o’r Arwyr Digidol yn gweithio gyda menyw oedd â ffôn clyfar ond oedd ddim yn gwybod sut i’w ddefnyddio i wneud dim mwy na phethau elfennol mewn gwirionedd. Erbyn diwedd y sesiwn, roedd hi’n cael sgyrsiau Facetime gyda’i merch yn Iwerddon. Roedden nhw wrth eu boddau!”

Dan Frost, athro yn Ysgol Gynradd St Julian

  • Roedd yn amlwg bod tenantiaid yn mwynhau treulio amser gyda’r bobl ifanc ac yn edrych ymlaen at yr ymweliadau wythnosol. Dywedon nhw bod mwy o ryngweithio wedi helpu gyda’u lles a chadw’r meddwl yn effro.

Beth allwn ni ei ddysgu y gellid ei ailadrodd, ei drosglwyddo neu ei addasu?

Mae gan brosiectau pontio’r cenedlaethau fanteision amlwg i’r ddwy ochr:

  • Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, roedd manteision amlwg i denantiaid o ran lles: cwmnïaeth, mwynhau gweithgareddau; meithrin cyfeillgarwch newydd; cael gafael ar gynnwys newydd; defnyddio cyfathrebu digidol i gadw mewn cysylltiad â’r teulu.
  • Dysgodd y plant sgiliau empathi, gwrando a chyfathrebu yn ogystal ag ategu eu gwybodaeth ddigidol. Roedd yn berthnasol i’r cwricwlwm ehangach hefyd, o safbwynt profiadau byw pobl hŷn.

Mae’r ysgol wedi elwa ar y rhaglen hefyd:

  • Cysylltiadau cryfach â’r gymuned a chyfleoedd newydd i ymgysylltu â rhieni.
  • Cydnabyddiaeth genedlaethol drwy ddyfarniadau ac ymweliad gan weinidog y llywodraeth.

Roedd defnyddio cysylltiadau oed yn bodoli eisoes yn golygu bod y rhaglen yn haws i’w rhedeg ac yn fwy effeithiol:

  • Roedd yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda Glyn Anwen ers sawl blwyddyn felly roedd perthynas y gellid ymddiried ynddi ar y ddwy ochr eisoes.
  • Roedd defnyddio partneriaeth sy’n bodoli’n barod – heb orfod treulio amser yn canfod a datblygu perthynas newydd – yn golygu y gallai staff ganolbwyntio mwy ar y disgyblion a chynnwys y rhaglen.
  • A oes cyfle i fapio ysgolion cynradd wedi’u lleoli’n agos at gartrefi preswyl ledled Cymru?

Strwythuro’r cynnwys, ond gadael i’r sgwrs lifo:

  • Bob wythnos roedd athrawon yn paratoi’r disgyblion gyda sgil, adnodd neu brofiad newydd y gallen nhw ei rannu yn ystod y sesiwn.
  • Wrth i gyfeillgarwch ddatblygu, neilltuwyd amser yn y sesiynau i’r partneriaethau archwilio eu diddordebau neu eu cwestiynau eu hunain.

Gwnewch y pethau bychain:

  • Roedd gweithio gyda chriw bach o ddisgyblion yn golygu bod y rhaglen yn hylaw i’r staff.
  • Ym mlwyddyn dau, mae’r ysgol yn cynnwys mwy o ddisgyblion ac yn integreiddio mwy o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm (fel rhannu prosiectau codio’r disgyblion).