Mae potensial aruthrol i gynhwysiant digidol wella iechyd a llesiant pobl hŷn a phobl â salwch cyfyngus hirdymor yng Nghymru. Mae’r twf cyflym mewn technolegau digidol yn cynnig cyfleoedd arbennig i bobl fod yn rhan fwy gweithredol o’u gofal eu hunain. Ond mae perygl difrifol hefyd i bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael eu gadael ar ôl.
Cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal
Pam mae cynhwysiant digidol yn bwysig i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae gan y GIG yng Nghymru weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru – mynediad ar-lein at gofnodion, archebu apwyntiad a chais am bresgripsiwn, apiau gofal iechyd, technolegau gwisgadwy, hunanreoli ar-lein ac ymgynghoriadau fideo. Mae byrddau iechyd unigol wrthi’n raddol yn cyflwyno rhaglenni cenedlaethol ar gyfer y cyhoedd.
Ond, y sawl sydd fwyaf angen iechyd a gofal (gan gynnwys pobl hŷn a rhai â chyflyrau hirdymor ac anableddau) yw’r rhai lleiaf tebygol o fod ar-lein.
- Dim ond 87% o bobl yng Nghymru â salwch, anabledd neu wendid hirdymor sy’n defnyddio’r rhyngwyd, o gymharu â 93% o’r rhai heb gyflyrau o’r fath.
- Dim ond 87% o fobl 65-74 oed sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, i gymharu â 99% o fobl 16-44 oed.
- Mae llai o bobl yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngwyd i reoli eu hiechyd nag yn rhannau eraill o’r DU.
Arbedion blynyddol o £2.9 biliwn
Mae Adran Iechyd Lloegr wedi cyfrifo arbedion blynyddol o £2.9 biliwn trwy ddefnyddio technoleg ddigidol yn y GIG. Ond ni chaiff yr arbedion hyn eu gwireddu’n llawn pan fo defnyddwyr mwyaf mynych y gwasanaethau iechyd a gofal yn llai tebygol o fod ar-lein.
Mae’r achos busnes dros gynhwysiant digidol mewn iechyd a gofal yn galonogol hyd yma. Mae gwerthusiadau’n dangos fod ymyriadau, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau digidol yn:
- Gwella hyder pobl wrth ddefnyddio adnoddau iechyd digidol
- Hybu rhagor i ddefnyddio gwasanaethau megis archebu apwyntiad ar-lein
- Cynyddu’r hunanofal am fân anhwylderau
- Lleihau achosion o unigrwydd a theimlo’n ynysig
- Arbed amser ac arian
Ein gwaith gyda darparwyr iechyd a gofal
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda phob un o saith bwrdd iechyd Cymru. Mae ein cymorth yn amrywio o hyfforddiant ymarferol i staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol, neu roi cymorth strategol er mwyn helpu uwch-swyddogion iechyd i sefydlu cynhwysiant digidol yn eu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd.
Yn ogystal â’n gwaith gyda byrddau iechyd, rydym yn gweithio gyda meddygfeydd unigol, cartrefi gofal, darparwyr gofal anstatudol a’r sector gwirfoddol.