Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cymunedaudigidol.llyw.cymru
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch o’r wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
- anfonwch neges e-bost at digitalcommunities@wales.coop
- ffoniwch 0300 111 5050
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon bob amser. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy’r dulliau sydd ar gael.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb-yn-wyneb
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni drwy ein tudalen gyswllt.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cymunedau Digidol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cael ei hasesu gan Wasanaethau Hygyrchedd Shaw Trust ar hyn o bryd. Mae’n cael ei phrofi gan bobl sydd ag ystod eang o anableddau er mwyn amlygu’r rhwystrau hygyrchedd a all fod yn bresennol, a rhoi atebion ar waith i gynnig cynnwys cynhwysol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw unrhyw un o’n dogfennau PDF neu Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol o ran darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio taflenni PDF neu ddogfennau PDF a luniwyd gan sefydliadau eraill.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu llunio yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 29 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Shaw Trust.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y prawf hygyrchedd yma.