Neidiwch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Default Alt Text

Rywsut, mae mis wedi hedfan ers cyfarfod cyntaf Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Ers hynny, rydw i wedi troi trawsgrifiadau’r trafodaethau yn daenlen liwgar ond ychydig yn gymhleth i fy helpu i gael trefn ar fy syniadau ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud gyda’r holl wybodaeth, syniadau a chwestiynau gwerthfawr hyn. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol nad yw pawb yn rhannu fy nghariad i at daenlenni, felly rwy am rannu fy syniadau cychwynnol fel bo pawb yn dal ati i sgwrsio.

O’r holl waith anhygoel sy’n cael ei wneud o ran cynhwysiant digidol ledled Cymru, y maes allweddol a gododd ei ben mewn ystafelloedd trafod oedd rhaglenni rhoi neu fenthyg dyfeisiau. Mae llawer ohonyn nhw o gwmpas, gyda llawer o’n haelodau yn cynnal eu rhaglenni eu hunain. Aeth y trafodaethau am y rhaglenni hyn ar wahanol drywydd. Lle gallwn ddod o hyd i fframwaith safonol neu gyfres o ganllawiau a allai helpu cynlluniau newydd sy’n cael eu sefydlu fel nad yw pobl yn gorfod dechrau o’r dechrau bob tro? Pam na wnawn ni i gyd ddefnyddio cwestiynau tebyg cyn dechrau ac wedyn er mwyn i ni allu cymharu data ar draws gwahanol ranbarthau? Sut gall fy sefydliad ddod o hyd i adnoddau i gefnogi’r bobl sy’n benthyg dyfeisiau i gael y sgiliau, hyder a mynediad at y rhyngrwyd i ddefnyddio’r dyfeisiau hynny? Beth sy’n digwydd i’r person a gafodd fenthyg y ddyfais pan fo’r benthyciad yn dod i ben neu’r data yn gorffen – ydyn nhw’n cael eu cefnogi i gael gafael ar ddyfais a chysylltiad eu hunain?

Roedd pwnc arall yn cael ei drafod ymhob ystafell drafod: cysylltedd. Nid yw pawb yng Nghymru yn gallu cysylltu â’r rhyngrwyd a daeth dau beth i’r amlwg yn nhrafodaethau’r ystafelloedd trafod: mae rhai’n byw yng nghefn gwlad Cymru lle nad yw darparwyr band eang a data yn eu cyrraedd, ac mae yna eraill sydd ddim yn gallu fforddio contractau neu ddim yn gymwys i’w cael. Roedd llawer yn galw am i fynediad i’r rhyngrwyd fod yn wasanaeth cyhoeddus neu gyfleustod hanfodol ac am greu safon byw digidol gofynnol. Sut beth yw’r safon ofynnol? Pam na all pawb sydd â data dros ben bob mis yn ein pecynnau diderfyn ei roi i bobl sydd ei angen? Pan nad oes grant neu gronfa lle gall sefydliadau wneud cais am y cyllid angenrheidiol i dalu er mwyn i bobl gael mynd ar-lein? Sut mae cael seilwaith band eang a chysylltedd i’r rhai hynny mewn ardaloedd gwledig sydd heb hynny ar hyn o bryd, er mwyn galluogi pobl i fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol?

Dyma flas cryno iawn ar ddau faes a ddaeth i’r amlwg yn y cyfarfod, ond yr hyn oedd fwyaf amlwg yn y trafodaethau hyn i mi oedd pa mor gymhleth yw cynhwysiant digidol a sut mae angen i’r 5 blaenoriaeth yn ein Hagenda weithio law yn llaw a sut mae angen i ni fel sefydliad gydweithio. Wrth roi neu fenthyg dyfais i rywun, os nad oes gan y person hwnnw unrhyw ffordd o fynd ar y rhyngrwyd na’r sgiliau i ddefnyddio’r ddyfais, bydd yr unigolyn dan sylw mewn angen o hyd. Mae llawer o waith pwysig wedi’i wneud i ddigideiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ond os nad yw pobl yn gallu manteisio ar y gwasanaethau hyn oherwydd diffyg sgiliau neu oherwydd eu bod yn byw mewn ardal wledig lle nad oes cysylltedd neu oherwydd nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r ddyfais neu’r data, rydyn ni’n creu problem a’r bobl fwyaf bregus yw’r rhai lleiaf tebygol i allu cael cymorth. Os nad ydych chi wedi creu diwylliant yn eich sefydliad lle mae cynhwysiant digidol wedi’i ymwreiddio mewn strategaethau a chynlluniau gwaith, yna bydd eich staff nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn ddigidol yn cael eu gadael ar ôl, ni fyddan nhw’n hyrwyddo eich gwasanaethau digidol newydd nac yn cefnogi’r bobl sy’n gweithio gyda chi i’w defnyddio ac ni fyddwch yn manteisio i’r eithaf ar drawsnewid digidol.

Mae cymhlethdod cynhwysiant digidol yn gofyn i ni gydweithio i wella bywydau pobl. Rwy’n credu bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud nawr, fel Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, yn rhoi’r cyfle i bobl siarad gyda’i gilydd, rhannu heriau, gofyn cwestiynau a dod â holl elfennau cynhwysiant digidol at ei gilydd. Efallai nad yw’r ateb gennym ni (eto) ond rydyn ni’n dod at ein gilydd, yn gofyn cwestiynau ac yn cefnogi ein gilydd a Chymru tuag at atebion ymarferol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer y cyfarfod Rhwydwaith nesaf ar 8 Rhagfyr 2021, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, e-bost diaw@wales.coop.