Neidiwch i’r prif gynnwys

Allech chi gefnogi ffrind, cymydog neu aelod hŷn o’r teulu i fynd ar-lein?

Byddwch yn Gyfaill Digidol a helpu pobl fwyaf bregus Cymru i ailgysylltu â’r cymunedau o’u cwmpas

Elderly man with younger women looking at a phone while smiling.

Mae galw ar bobl yng Nghymru i helpu i gael mwy o drigolion hŷn y genedl i fynd ar-lein a chefnogi aelod teulu, ffrind, neu gymydog i wneud yr un fath.

Daw’r alwad ar ôl i’r Arolwg Cenedlaethol Cymru (2019-20) diweddaraf ddatgelu bod 41% o bobl dros 75 oed a 19% o bobl 64-75 oed yn cael eu hystyried fel bod wedi eu hallgau’n ddigidol, tra bod dros hanner y bobl dros 70 oed yn dweud bod mynediad at siopa bwyd, meddyginiaeth a hanfodion wedi’i effeithio gan Covid-19.

Meddai Dewi Smith o Cymunedau Digidol Cymru: “Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael pobl i fynd ar-lein, ond eto rydym yn gwybod yng Nghymru nad yw oddeutu 10% o oedolion ar-lein, ac mae hynny’n arbennig o wir am bobl hŷn.

“I lawer o bobl hŷn sydd ddim ar-lein, y person gorau i’w helpu yw ffrind neu aelod o’r teulu y gallan nhw ymddiried ynddo ac sy’n eu ’nabod yn dda ac yn gallu gweithio gyda nhw un i un i oresgyn eu pryderon a magu eu hyder – maen nhw angen rhywun i fod yn Gyfaill Digidol iddyn nhw.”

Default Text

Mae Peter o Gaerfyrddin yn un o’r rhai sydd eisoes yn helpu eraill yn ei ardal i fynd ar-lein – pobl sydd ddim wedi bod â’r modd na’r arbenigedd i wneud hynny yn y gorffennol.

Mae Peter, sy’n 73, wedi bod yn wirfoddolwr digidol ers dros 10 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n defnyddio ei gefndir ym maes TG i helpu eraill fel gwirfoddolwr gyda U3A Caerfyrddin, Age Cymru Sir Gâr a RVS.

Meddai Peter: “Mae gwirfoddoli’n sicr yn gwneud i rywun deimlo’n dda am ei hun, ond gallwch chi hefyd ddysgu llawer hefyd.”

Default Text

Yn y cyfamser, mae Dorothy ymysg y rhai sydd eisoes wedi’i chefnogi i ddefnyddio’r rhyngrwyd, ar ôl derbyn iPad ar fenthyciad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gyda chymorth gan ei hŵyr Harry, mae Dorothy bellach yn defnyddio ei iPad i gadw mewn cysylltiad â’i chyfnither yn y Bala a ffrindiau mor bell â Chanada.

Meddai: “Y peth cyntaf wnes i oedd dysgu sut i siopa ar-lein, ac ar ôl un neu ddwy ymgais, llwyddais i wneud hynny yn y pen draw ac mae’n wych.”

“A gyda Google, mae’r byd ar blât i mi. Os ydw i am ganfod unrhyw beth, unrhyw le yn y byd, mae o yna. Dydy rhywun ddim yn teimlo mor unig ac mae hynny’n bwysig iawn,” meddai.

Lansiwyd y fenter Cyfeillion Digidol gan Cymunedau Digidol Cymru mewn cydweithrediad ag Age Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n seiliedig ar y syniad syml o ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu yn helpu rhywun maen nhw’n ei ’nabod i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Gyda’r cymorth hwn, gall rhai o drigolion mwyaf bregus ac unig y wlad fagu eu hyder digidol ac ailgysylltu â’u hanwyliaid, cymunedau ehangach a gwasanaethau hanfodol o’u cwmpas.

Ychwanegodd Dewi: “Diolch i bobl fel Peter a Harry, mae Cyfeillion Digidol eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu pobl sy’n ‘anoddach eu cyrraedd’ – er enghraifft y rhai nad ydyn nhw’n gallu mynychu gweithgareddau grŵp y tu allan i’r cartref a’r rhai sy’n byw eu hunain heb gymorth teulu.

“Felly, rydym yn apelio i fwy o bobl ddod ymlaen a helpu hefyd – pobl sydd ag awr neu ddwy yn rhydd – y gall eu hamser a’u profiad helpu rhai o drigolion mwyaf bregus ac unig Cymru ar adeg pan maen nhw angen cysylltu â’r byd fwy nag erioed o’r blaen.

“Os ydych chi’n ’nabod rhywun sydd ddim yn gwneud y gorau o’r byd digidol neu sy’n cael anhawster mynd ar-lein, beth am ofyn a allwch chi eu helpu? Does dim angen i chi fod yn giamstar ar TG, dim ond bod yn gyfarwydd â defnyddio’r we eich hun a bod yn amyneddgar, gofalgar ac yn wrandäwr da. Mae gan Cymunedau Digidol Cymru syniadau ac adnoddau i’ch helpu i gyfrannu a gwneud gwahaniaeth,” meddai Dewi.

Am ragor o wybodaeth am sut i fod yn Gyfaill Digidol, neu i gyflwyno rhywun rydych chi’n credu allai elwa ar y cynllun, ewch i Cyfeillion Digidol (gov.wales)