Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynhwysiant Digidol Enghreifftiau yng Nghymru

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cyhoeddi ymchwil newydd yn amlygu pwysigrwydd cynhwysiant digidol mewn prosesau cynllunio corfforaethol.

Lawrlwytho yr adroddiad

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod angen perchenogaeth ar gynhwysiant digidol ar lefel Uwch Reolwyr a Bwrdd. I sicrhau llwyddiant parhaus ac i fynd i’r afael yn llawn â Chenhadaeth 2 Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru i Gymru, mae’r ymchwil yn argymell bod sefydliadau’n datblygu strategaethau a rhaglenni gweithredu i leddfu allgáu digidol fel rhan o’u proses cynllunio corfforaethol.

Caiff yr ymchwil ei lansio’n ffurfiol mewn sesiwn banel yn ystod Wythnos Arweinwyr Digidol, sef am 11am ddydd Mawrth, 15 Mehefin. Ymunwch â Paula Burnell o Dwr Cymru, Jim Wright o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Matthew Hazlewood o Gyngor Sir Ddinbych wrth iddynt drafod sut mae eu sefydliadau wedi datblygu ymagwedd strategol fwy aeddfed at gynhwysiant digidol. Bydd Catherine Evans o Gymunedau Digidol Cymru a Dr Craig Livingstone, awdur yr ymchwil, yn ymuno â Paula, Jim a Matthew ar y panel.

Dysgwch sut mae sefydliadau blaenllaw yng Nghymru wedi datblygu ymagwedd strategol fwy aeddfed at gynhwysiant digidol yn ein sgwrs Wythnos Digital Leaders ‘Gwreiddio cynhwysiant digidol yn eich strategaeth gorfforaethol’ ar Mawrth 15 Mehefin am 11am.

Ewch i wefan Digital Leaders

Fe wnaeth awdur yr adroddiad, Dr Craig Livingstone, gyfweld ag 19 sefydliad yng Nghymru yn rhychwantu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys tai, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a chyfleustodau. Nodwyd saith ‘esiampl’ ac mae’r ymchwil yn cynnwys astudiaethau achos manwl o bob un ohonynt, yn amlygu themâu allweddol a ffactorau ar gyfer llwyddiant, gwersi a ddysgwyd, argymhellion a chipolygon y gellir gweithredu arnynt i sefydliadau eraill.

Hefyd, mae’r ymchwil yn cynnwys gwybodaeth gyfredol am allgáu digidol ar ddechrau’r 2020au, crynhoi data o’r Arolwg Cenedlaethol diweddaraf i Gymru a Mynegai Digidol Defnyddwyr Lloyds, ynghyd â chrynodeb o Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru i Gymru.

Daw’r ymchwil i gasgliad gyda chyfres o argymhellion:

Argymhelliad 1: Dylai pob sefydliad nawr fod yn dylunio’u gwasanaethau eu hunain i sicrhau’r cynhwysiant digidol mwyaf ac i fod yn hygyrch i bawb.

Argymhelliad 2: Mae ar gynhwysiant digidol angen perchenogaeth ar lefel Uwch Reolwyr a Bwrdd.

Argymhelliad 3: Mae ar gynhwysiant digidol angen dod yn rhan o strategaeth fusnes a dyluniad a darpariaeth gwasanaethau sefydledig, fel rhan o fusnes yn ôl yr arfer, nid cyfres o brosiectau arbrofol dan gyfyngiadau amser ac arian.

Argymhelliad 4: Mae angen i gynhwysiant digidol ystyried yr hyfforddiant y mae ei angen ar staff i helpu i ddefnyddwyr gwasanaethau ei fabwysiadu.

Argymhelliad 5: Digidol trwy ddewis yw’r modd gweithredu o ddewis o hyd. Dylai sefydliadau barhau i gefnogi ffyrdd eraill o ymwneud â nhw.

Argymhelliad 6: Mae datblygiad gwasanaeth digidol yn broses gydweithredol ac nid yn un y dylai sefydliadau ei orfodi ar ddefnyddwyr.

Argymhelliad 7: Dylai egwyddorion dylunio ymatebol gael eu defnyddio i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn addasu i’r dyfeisiau sydd gan ddefnyddwyr.

Argymhelliad 8: Gallai cydweithredu rhwng darparwyr gwasanaethau alluogi’r cyllid sydd gan bob un ohonynt i gefnogi cynhwysiant digidol gael ei ddefnyddio’n fwy cyfunol ac yn fwy effeithiol.

Argymhelliad 9: Mae angen casglu tystiolaeth a phrofiad o brosiectau unigol a’u rhannu ymhlith cymar-sefydliadau mewn sectorau tebyg.

Argymhelliad 10: Dylai rhaglenni cymorth cenedlaethol, fel Cymunedau Digidol Cymru a phartneriaethau cenedlaethol fel Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, ystyried y rôl y gallant ei chwarae wrth gasglu a rhannu profiad rhwng cymar-sefydliadau.