Strategaeth Ddigidol i Gymru
Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae digidol yn newid ein bywydau, ac mae pandemig COVID-19 wedi cyflymu y newid hwn yn sylweddol. Mae digidol bellach yn rhan hanfodol o’n bywydau bob dydd ac mae gallu cael gafael ar wasanaethau ar-lein yn normal.
Mae Strategaeth Ddigidol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig yng Nghymru i wneud pethau’n well i bobl, cymunedau a busnesau.
Nid yw mabwysiadu dull digidol yn ymwneud â chyfrifiaduron neu dechnoleg yn unig, mae’n ymwneud ag edrych ar hen broblemau mewn ffyrdd newydd gan ddefnyddio ystod eang o offer ac adnoddau newydd sydd ar gael i ni. Mae’n ymwneud â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus o amgylch yr hyn y mae ar ddefnyddwyr ei angen mewn gwirionedd, nid dim ond yr hyn y mae sefydliadau’n credu sydd ei angen arnynt; manteisio ar arloesedd digidol i helpu busnesau i lwyddo; a rhoi cyfle i bobl ddatblygu sgiliau a hyder digidol i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a bod yn rhan o’r gweithle modern.
Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a gweddill y DU drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio’n gyflym.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn trawsnewidiad digidol yng Nghymru. Lansiwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a gwnaethom benodi Prif Swyddogion Digidol newydd ar gyfer Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru, gydag un i ddilyn ar gyfer Iechyd. Mae fy nghydweithwyr gweinidogol a minnau wedi buddsoddi’n sylweddol mewn Iechyd Digidol (£75m), ein rhaglen Hwb Technoleg Addysg (£92m dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf a £15m eleni), Seilwaith Digidol (£26m), cymorth digidol i fusnesau (£2m), y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (£4.9m) a Chynhwysiant Digidol (£2m).
Rydym am adeiladu ar y momentwm hwn i greu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon, dwyieithog a symlach a chefnogi’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rhaid i wella’r modd y darperir gwasanaethau fod yn seiliedig ar well defnydd o ddata. Mae’r strategaeth yn manylu ar sut mae’n rhaid i ni gydweithio, gan sicrhau bod yr holl ddata’n cael ei ddefnyddio’n foesegol a’i rannu’n effeithiol, bod ganddo safonau cyson, ei fod yn cael ei ddiogelu a’i fod yn cyrraedd y man lle mae angen iddo fynd. Bydd hyn yn cefnogi gwasanaethau di-dor i’r gweithwyr proffesiynol a’r bobl sy’n ei ddefnyddio.
Rydym hefyd am gefnogi pobl i fagu hyder digidol i gael mynediad i’r rhyngrwyd a mwynhau’r manteision niferus a gynigir mewn byd digidol. Gwyddom eisoes nad darparu dyfeisiau neu gysylltedd yn unig yw’r ateb a byddwn yn dysgu gan y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol ac yn gwrando ar anghenion pob grŵp poblogaeth neu’r rhai sydd â mynediad digidol cyfyngedig, sgiliau digidol sylfaenol a diffyg hyder. Rydym am i bawb ddatblygu sgiliau digidol cyn gynted â phosibl fel eu bod yn hyderus wrth fanteisio ar yr offer a’r technolegau sydd o’u cwmpas.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd digidol i sicrhau bod economi Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang tra’n lledaenu cyfoeth, gwydnwch a lles ledled Cymru. Byddwn yn cefnogi busnesau i gyflymu’r broses o fabwysiadu digidol i weithio’n gallach a sbarduno arloesedd, gan sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Mae’r seilwaith sylfaenol yn hanfodol i gyflawni’r strategaeth hon. Y seilwaith hwn yw’r sylfaen sydd ei hangen arnom i adeiladu gwasanaethau digidol o ansawdd da. Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gysylltedd digidol a pholisi telathrebu, byddwn yn parhau i fuddsoddi i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau lle mae achos ar eu cyfer. Fodd bynnag, rhaid inni sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yng Nghymru.
Mae’r Strategaeth Ddigidol yn nodi’r canlyniadau rydym am eu gweld a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni. Mae’r cynllun cyflawni, a gyhoeddir ochr yn ochr â’r strategaeth, yn manylu ar y camau allweddol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hynny. Byddwn yn cymryd agwedd ailadroddol at y cynllun cyflawni, gan ei ddiweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu blaenoriaethau sy’n newid.
Cyhoeddwyd cyfres o flogiau gennym am y strategaeth ddigidol ddrafft i gael syniadau gan nifer o bobl. Mae’r fersiwn derfynol yn adlewyrchu’r dull cydweithredol rydym wedi’i ddefnyddio ac wedi’i gryfhau gan yr ystod eang o syniadau a safbwyntiau a gawsom gan bobl, sefydliadau a chyrff cynrychioliadol.
Rwy’n benderfynol mai dim ond dechrau sgyrsiau parhaus gyda phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yw hyn wrth i ni adeiladu Cymru wirioneddol ddigidol.