Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 5 – Cysylltedd Digidol

Postiad gan Lee Waters MS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Ym mhob man o’n cwmpas, mae technoleg ddigidol yn sbarduno gwelliannau ym mron pob agwedd ar ein bywydau.  Wrth gwrs, ni all unrhyw ddigideiddio ddigwydd heb y seilwaith sylfaenol sy’n cysylltu ein cyfrifiaduron, ein dyfeisiau a’n gwasanaethau ar-lein.

Mae Covid wedi amlygu’r angen am fwy o gyflymder cysylltedd a mynediad band eang, ac wrth i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol, rydym yn dod yn fwy dibynnol ar wasanaethau digidol ar gyfer gweithio gartref, e-ddysgu, mynychu apwyntiadau meddygon teulu rhithwir, digwyddiadau ar-lein a llawer mwy.  Ers dechrau’r pandemig, mae angen i lawer mwy o bobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein, a bu mwy o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd am wybodaeth a chyngor sydd wedi sbarduno trawsnewid mewn gwasanaethau digidol.

Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn hyrwyddo’r agweddau cadarnhaol sydd wedi deillio o’r argyfwng hwn. Mae ysgolion wedi addasu’n gyflym i ddysgu ar-lein, gweithwyr iechyd proffesiynol i ymgynghoriadau o bell ac mae ein hangen ar y cyd i deithio i fynychu cyfarfodydd wedi’i gwestiynu drwy effeithlonrwydd yr alwad fideo. Efallai fod newidiadau cyflym o’r fath wedi’u hysgogi gan yr angen i addasu i gyfres benodol o heriau, ond mae’n amlwg eu bod yma i aros oherwydd y potensial enfawr y maent yn ei gynnig. Fodd bynnag, mae galluogi’r broses barhaus hon o fabwysiadu gwasanaethau digidol yn dibynnu ar sylfaen gadarn o gysylltedd digidol hollbresennol o ansawdd da.

Er hynny, mae’n amlwg nad yw’n sefyllfa deg ledled y wlad.  Er bod cysylltedd digidol o ansawdd da ar gael i’r mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau ledled Cymru, mae yna rai sy’n parhau i frwydro gyda hyd yn oed y cysylltiadau mwyaf sylfaenol. Gall mynd i’r afael â materion o’r fath fod yn araf ac yn ddrud, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae’r tir yn fwy heriol a’r boblogaeth yn fwy gwasgaredig. Mae’r cymhellion i gwmnïau fuddsoddi i gyrraedd eu cwsmeriaid yn yr ardaloedd hyn yn lleihau ac yn aml yn cael eu diystyru gan gyfleoedd i ganolbwyntio ar gyflwyno seilwaith ac uwchraddio gwasanaethau mewn trefi a dinasoedd poblog. Mae safleoedd yng Nghymru na allant gael mynediad at fand eang cyflym iawn ac mewn mannau eraill mae cyflwyno band eang gigabit yn fasnachol eisoes yn cyflymu mewn mannau sydd wedi mwynhau darpariaeth gyflym iawn ers amser maith.

Yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi cysylltedd digidol o ansawdd da ond mae’n hanfodol nodi, mai mater i Lywodraeth y DU yw polisi telathrebu a mynd i’r afael â materion cysylltedd digidol o’r fath. Mae hwn yn faes a gadwyd yn ôl nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano ac nad yw’n cael unrhyw gyllid datganoledig i fynd i’r afael ag ef.

Mae adroddiad diweddar Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar y seilwaith digidol yng Nghymru yn canolbwyntio ar y gwaith rydym eisoes wedi’i wneud.  Mae’r adroddiad yn nodi meysydd â blaenoriaeth y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt, gan gynnwys arolwg o’r cymorth penodol – ariannol ac ymarferol – a roddir yn ogystal â pharhau’r drafodaeth â Llywodraeth y DU, i sicrhau mwy o gysylltedd sefydlog a symudol ledled Cymru.

Rydym wrthi’n ymateb i argymhellion penodol yr adroddiad ond mae’n hanfodol wrth wneud ein bod yn meddwl yn ofalus beth yw ein rôl o ran mynd i’r afael â’r materion hyn a sut y caiff unrhyw gamau a gymerwn ymlaen eu hariannu. Yn y gorffennol, gwnaethom ysgogi Cyllid Ewropeaidd i drawsnewid cysylltedd digidol ar raddfa enfawr. Mae’r dirwedd wedi newid yn ddramatig ers hynny ac rydym yn awr yn edrych ar Lywodraeth y DU i adeiladu ar ein llwyddiant a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol yng Nghymru.

Mae un o’r argymhellion, creu tasglu ‘Chwalu’r Rhwystrau’, eisoes wrthi’n cael ei roi ar waith a cheir trafodaeth a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru, y diwydiant telathrebu a Llywodraeth y DU.  Bydd hyn yn sicrhau ein bod y dilyn y llwybr hwylusaf tuag at ddarparu rhagor o seilwaith digidol a chynyddu’r cysylltedd yn y dyfodol.

Ond erys ein huchelgais cyffredinol. Yr ydym am weld seilwaith hollbresennol o ansawdd da sy’n cefnogi ein hagenda ar gyfer darparu gwasanaethau digidol. Yr ydym yn barod i fuddsoddi i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau lle mae ei angen, fodd bynnag, rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau yng Nghymru.

Mae’r Strategaeth Ddigidol hon wedi’i chynllunio i gefnogi’r uchelgeisiau hyn.

Dyna pam mai ein pumed Cenhadaeth yw sicrhau:

Y cefnogir gwasanaethau gan seilwaith cyflym a dibynadwy

Felly, beth fyddwn ni’n ei wneud?

Default Alt Text

Beth fydd yn wahanol?

Ein nod yw cyflawni’r canlyniad canlynol:

  • Seilwaith digidol rhagorol gan gynnwys cysylltedd rhyngrwyd a rhwydwaith symudol a all gefnogi anghenion y genedl gyfan.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Bydd gan y genhadaeth hon, fel y lleill, gynllun gweithredu clir a gwyddom fod llawer o’r uchelgeisiau hyn yn rhai hirdymor. Yn wir, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar nodi’r camau y mae angen eu cymryd os ydym am gyflawni’r hyn rydym wedi’i nodi uchod. Unwaith y byddant wedi’u datblygu, bydd y cynlluniau gweithredu’n cael eu rhannu a byddant yn gweithredu fel dogfennau byw gyda chynnydd yn cael ei adrodd yn rheolaidd.

Cael eich adborth

Hoffem glywed eich barn am gysylltedd digidol yng Nghymru, ein rôl o ran mynd i’r afael â bylchau mewn cysylltedd a’r ffordd orau o fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o dechnolegau seilwaith newydd.

  • Beth ddylai ein rôl fod?
  • Yn eich barn chi, beth allai’r rhwystrau i gysylltedd digidol fod, y ffordd orau o’u goresgyn, sut a chan bwy?
  • Ydych chi’n meddwl bod bylchau cysylltedd digidol ac, os felly, beth/ble maen nhw?
  • Pe bai’n rhaid i chi flaenoriaethu, beth fyddai eich tair blaenoriaeth uchaf?

Rhannwch eich sylwadau gyda ni drwy lenwi’r ffurflen ar-lein lle gallwch roi adborth ar y cyfan neu rai o’r cenadaethau neu gallwch adael sylw isod. Bydd y ffurflen a’r sylwadau ar-lein ar agor tan 31 Ionawr 2021.

Er na fyddwn yn ymateb i bob sylw unigol, gallwn fod yn dawel ein meddwl y byddwn yn ystyried yr holl adborth wrth ddatblygu Strategaeth Ddigidol Cymru.

Edrychwch ymlaen at y blog Sgiliau Digidol nesaf, sy’n dod yn fuan.