Rwy’n eiriolwr brwd dros gynhwysiant ddigidol. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at ein dibyniaeth ar ddigidol – boed hynny i gael mynediad at wasanaethau iechyd, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu gynnal gweithgareddau dyddiol arferol fel archebu bwyd.
Fodd bynnag i’r rhai nad ydynt yn hyderus yn ddigidol, mae’r ddibyniaeth fwy hon ar ddigidol wedi pwysleisio’r rhaniad digidol sy’n ehangu’n gynyddol. Nid yw cynhwysiant digidol bellach yn ‘braf i’w gael’. Mae’n hanfodol bod yn rhan o gymdeithas fodern. Dyna pam y mae’n sail i’r holl deithiau yn ein strategaeth ddigidol.
Yr ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae’n rhaid i bob sector gydnabod, croesawu a darparu gwasanaethau i bob dinesydd, nid dim ond y rheini sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol. Ni allwn ddarparu arloesedd drwy dechnoleg ddigidol heb ystyried anghenion yr holl ddefnyddwyr gwasanaethau presennol a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau.
Ni fydd mwy fyth o fuddsoddi mewn seilwaith, cysylltedd a mynediad i ddyfeisiau yn unig yn datrys y broblem.
Cynhwysiant Digidol: her cyfiawnder cymdeithasol
Mae digidol yn ddull o ddatrys problemau sy’n seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Lee Waters yn ei flog cyntaf am y strategaeth ddigidol – nid yw’n ymwneud â chyfrifiaduron yn unig. Mae’n ymwneud â phobl.
Rydym am gefnogi pawb yng Nghymru i ennill y cymhelliant, yr hyder a’r sgiliau i ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol. Yna gallant wneud penderfyniadau gwybodus am sut y maent yn cymryd rhan yn ein byd cynyddol ddigidol, ac yn gwneud y gorau ohono – rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol y dyddiau hyn.
I’r rhai na allant, neu sy’n penderfynu peidio â chymryd rhan yn ddigidol, rhaid i ni sicrhau bod ffyrdd eraill o gael mynediad at wasanaethau – a ddatblygwyd i fod yr un mor dda â’r rhai a gynigir ar-lein.
Gall offer a thechnolegau digidol helpu i wneud bywydau pobl yn well mewn llawer o ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol ehangach megis allgáu ariannol a chymdeithasol drwy ddefnyddio technoleg, ond mae angen inni sicrhau y gall pawb gymryd rhan lawn.
Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd ein Rhagolwg Cynhwysiant Digidol: tuag at Gymru sy’n hyderus yn ddigidol. Er mwyn adeiladu ar y Rhagolwg, rwy’n credu ei bod yn hanfodol cymryd y pedwar cam canlynol. Maen nhw’n dangos y rôl y mae’n RHAID i gynhwysiant digidol ei chwarae os ydym am arloesi a sicrhau bod economi Cymru’n ffynnu: