Fel yr wyf wedi dweud eisoes yn fy mlog cyntaf, mae ‘digidol’ yn ymwneud â mwy na thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â phobl hefyd. Mae hynny yr un mor wir yn achos ein heconomi.
Wrth inni ddod allan o’r pandemig ac ymadael â’r UE, bydd arloesedd digidol yn parhau’n rym a fydd yn tarfu ar ein bywydau. Ond mae manteision i hynny. Bydd yn golygu na fydd yn rhaid i bobl ymgymryd â thasgau bob dydd dibwys a bydd yn eu galluogi i fod yn fwy creadigol a chynhyrchiol. Bydd yn cefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Bydd yn agor marchnadoedd newydd ar gyfer masnach. Bydd yn helpu i sbarduno economi llesiant ar gyfer pobl a busnesau Cymru.
Mae arloesi digidol hefyd yn newid byd gwaith a’n heconomi. Cydnabu’r Athro Phillip Brown hyn yn ei adolygiad ar gyfer y llywodraeth – Adolygiad o arloesi digidol. Ni ellir dadwneud y newid hwn. Rhaid inni gofleidio manteision arloesi ac awtomeiddio digidol, gan greu economi fodern ffyniannus ac iach yng Nghymru.
Nod y Strategaeth Ddigidol hon yw cefnogi’r uchelgais hwn.
Dyna pam mai ein hail Genhadaeth yw:
Sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chydnerthedd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd i elwa ar dechnolegau newydd er mwyn sbarduno buddsoddiad, a denu talent newydd i Gymru. Gan fabwysiadu argymhellion yr Athro Brown i gyflymu trawsnewid diwydiannol, byddwn yn hoelio sylw ar hyrwyddo gwaith i ddatblygu clystyrau arloesi digidol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i gyd-greu’r partneriaethau y bydd ar y clystyrau hyn eu hangen er mwyn ffynnu. Er enghraifft, rwy’n edrych ymlaen at y cynigion sy’n cael eu cyflwyno gan y sector addysg uwch yng Nghymru i greu “Cyflymydd Cenedl Ddata”, gan ddod a’i allu ef a gallu’r diwydiant a’r sector cyhoeddus ynghyd i sbarduno arloesedd ym maes data a deallusrwydd artiffisial.
Byddwn yn helpu busnesau i ddatblygu sgiliau eu gweithluoedd ar gyfer y dyfodol, gan fanteisio ar y newid yr ydym yn ei weld yn y galw am sgiliau Seiber a Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru.
Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, byddwn yn cefnogi twf yr economi ddigidol yng Nghymru drwy annog pobl i weithio’n hyblyg ac o bell, er mwyn helpu i sbarduno gwaith adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau. Bydd hynny’n golygu y bydd gweithwyr yn gallu parhau’r un mor gynhyrchiol a bydd hefyd, ar yr un pryd, yn hyrwyddo gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mewn blog diweddarach, byddwn yn trafod cysylltedd a’r seilwaith yr ydym am ei ddatblygu a manteisio arno er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau y mae ei hangen ar fusnesau i gyflawni’n huchelgais ar gyfer economi ddigidol.