Fel y dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei flog cyflwyno yn gynharach yr wythnos hon, mae gwasanaethau digidol yn fwy am bobl a ffordd o feddwl na thechnoleg. Mae’n ymwneud â moderneiddio gwasanaethau o fewn sefydliadau a darparu gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.
Yn rhy aml o lawer, caiff gwasanaethau cyhoeddus eu creu neu eu moderneiddio heb ystyried anghenion y bobl sydd angen eu defnyddio, neu ystyried beth yw gwasanaeth da. Maent yn aml yn gymhleth, yn anodd eu cyrraedd, yn ddryslyd, wedi’u cyfyngu gan ffiniau sefydliadol, ac yn cynnig canlyniadau aneglur.
Pan fydd o safon uchel, gall trawsnewidiad digidol wella llawer ar brofiad defnyddwyr; gan olygu bod pethau’n cael eu gwneud yn gyflym, yn hawdd ac yn syml.
Yng Nghymru, rydym am godi’r safon a gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi eu cynllunio yn dda, yn ddiogel ac yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr.
Dyna pam mai ein Cenhadaeth gyntaf yw:
Darparu a moderneiddio gwasanaethau i gyfres gyffredinol o safonau fel eu bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Felly, beth fyddwn ni’n ei wneud?
Eleni, rydym eisoes wedi sefydlu Canolfan newydd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddechrau cefnogi gwasanaethau cyhoeddus wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau, gosod safonau a chynnig cyngor.
Byddaf yn gweithio gyda’r Ganolfan, a’r Prif Swyddog Digidol dros lywodraeth leol (ac, yn y dyfodol, iechyd), i sicrhau ein bod yn cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cyflawni yn erbyn yr uchelgais hon.
Byddwn yn cydweithio â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a gyda busnesau i gynllunio gwasanaethau sy’n syml ac sy’n gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio. Golyga hyn bod angen iddynt fod yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr, ac y dylid cynllunio gwybodaeth a data yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Mae’n rhaid inni hefyd sicrhau bod hygyrchedd a diogelwch yn flaenllaw yn ein cynllun ar gyfer y gwasanaeth.
Isod, rydym yn dangos rhai o’r camau o flaenoriaeth y byddwn yn eu cymeryd.