Nid yw’n ymwneud yn unig â chyfrifiaduron. Gadewch i ni fod yn glir am hynny o’r dechrau.
Mae’r term ‘digidol’ yn cwmpasu llawer, ond yn ei hanfod mae’n ymwneud â defnyddio technoleg i wneud pethau’n well – i wneud cwmnïau’n fwy cynhyrchiol neu i greu cynnyrch a marchnadoedd newydd, yn ogystal â datblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid.
Ddwy flynedd yn ôl, cadeiriais banel arbenigol i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gallem harneisio pŵer digidol i wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein hadroddiad Newid y System yn ei roi fel hyn: “nid yw newid digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â newid diwylliant. Mae’n ymwneud â bod yn agored. Mae’n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio gwasanaethau o safbwynt yr hyn y mae sefydliadau’n credu sydd ei angen ar ddinasyddion, mae dull digidol yn cynnwys cynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr terfynol”.
Mae gallu cael gafael ar y pethau bob dydd sydd eu hangen arnom yn ddigidol bellach yn normal. Ond fel y dangosodd pandemig COVID i ni, nid oedd hynny’n wir am lawer o wasanaethau cyhoeddus allweddol. Gwelsom addasu cyflym i newid ein ffordd o weithio a byw, ac mae’r profiad wedi codi ymwybyddiaeth a disgwyliadau o ran sut mae’n rhaid i ni barhau i arloesi.
Ein gweledigaeth
Rydym am i bobl yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a symlach ac ar yr un pryd, ysgogi arloesedd yn ein heconomi a chefnogi canlyniadau heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ein gweledigaeth yw y bydd “Digidol yng Nghymru yn gwella ansawdd bywyd, cynaliadwyedd a thwf economaidd, gan greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gefnogir gan arweinyddiaeth effeithiol, data a diwylliant o arloesi a chydweithredu.”
Rydym yn creu strategaeth ddigidol i Gymru a fydd yn ein helpu i gyflawni yn erbyn y weledigaeth honno. Rhaid iddi nodi’n glir ein huchelgais ar gyfer Cymru, y canlyniadau yr ydym am eu gweld a’r camau gweithredu a fydd yn eu cyflawni.
Mae ein ffordd o feddwl wedi datblygu dipyn ond rydym am brofi lle rydyn ni arni a defnyddio dulliau torfol i gasglu syniadau i’w chryfhau. Felly, rydym yn rhannu ein drafft yn agored i gael eich mewnbwn i helpu i lunio’r fersiwn derfynol.
Mae’r strategaeth wedi’i rhannu’n genadaethau sy’n dod o dan y weledigaeth. Mae’r cenadaethau’n disgrifio’r hyn yr ydym am ei gyflawni.