Cwrs e-ddysgu i helpu gweithwyr allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i uwchsgilio’n ddigidol yn ystod Covid-19
Mae'r cwrs dwyieithog newydd, Ysbrydoli Defnydd Digidol ym maes Iechyd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth, a hynny rhwng Cymunedau Digidol Cymru a Digital Unite.
Mae yna 250 o godau talebau ar gael i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n dymuno cyfranogi yn y cwrs. I wneud cais am daleb, anfonwch neges e-bost i:
Yr wythnos hon, mae cwrs e-ddysgu rhad ac am ddim, i helpu i fynd i’r afael â’r gagendor digidol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cael ei lansio yng Nghymru.
Mae’r cwrs dwyieithog newydd, Ysbrydoli Defnydd Digidol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Inspiring Digital Use in Health and Social Care wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth, a hynny rhwng Cymunedau Digidol Cymru a Digital Unite. Mae’n egluro wrth y rheiny sydd mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol beth yw manteision darparu gwasanaeth digidol, sut i ddod o hyd i’r wybodaeth iechyd fwyaf dibynadwy ar-lein, a lle y gall pobl fynd am gymorth pellach sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Mae’r cwrs rhagarweiniol yn cael ei letya ar Rwydwaith Hyrwyddwyr Digidol arobryn Digital Unite*. Mae gan y rhai sy’n astudio’r cwrs DPP-achrededig hefyd fynediad at saith cwrs ar-lein arall i’w helpu i ddatblygu eu statws Hyrwyddwr Digidol; mae’r cyrsiau hyn yn cwmpasu meysydd megis hygyrchedd ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg, a’r modd i gael pobl hŷn i ymgysylltu â gweithgareddau ar-lein.
Dywedodd Bob Gann, ymgynghorydd annibynnol ac awdur Cynhwysiant Digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru**:
“Mae’r twf cyflym ym maes technolegau digidol yn cynnig cyfleoedd trawsnewidiol i bobl ddod yn bartneriaid mwy gweithredol yn eu gofal eu hunain, gan ryngweithio â gwasanaethau gyda’r hwylustod a’r cyfleustra y maent wedi dod i’w disgwyl mewn meysydd eraill o’u bywyd.
“Ond, gyda’r cyfleoedd cyffrous hyn daw risg ddifrifol. Wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus hanfodol gael eu darparu ar-lein, mae pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol yng Nghymru mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Nid yw’r angen i uwchsgilio’r sector iechyd a gofal cymdeithasol erioed wedi ei amlygu ei hun ar adeg bwysicach wrth i ni ddysgu sut i drawsnewid ein staff rheng flaen yn ddigidol trwy’r pandemig cyfredol hwn.
“Bydd y cwrs e-ddysgu newydd a lansiwyd gan Cymunedau Digidol Cymru a Digital Unite nid yn unig yn helpu ein gweithwyr allweddol i ddeall pwysigrwydd cynhwysiant digidol yn eu rôl o ddydd i ddydd, ond bydd hefyd yn helpu i gynyddu eu sgiliau eu hunain o ran defnyddio technolegau digidol yn y gweithle. Rwy’n falch ei fod yma, ac edrychaf ymlaen at glywed yr adborth gan y cyfranogwyr.”
Gall y cyfranogwyr ddilyn y cwrs ar-lein hwn yn eu hamser eu hunain, ac mae’n llawn fideos, astudiaethau achos a chwisiau ysbrydoledig. Mae iddo hefyd fathodyn a thystysgrif digidol i gydnabod y sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd.
Dywedodd Laura Phillips, swyddog Hyfforddiant a Datblygu yn Cymunedau Digidol Cymru – Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant:
“Mae’r cwrs e-ddysgu lefel mynediad hwn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru wedi bod yn cael ei ddatblygu gyda Digital Unite dros y 12 mis diwethaf, felly rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i’w lansio a gweld pa effaith y bydd yn ei chael.
“Gall technoleg ddigidol fod yn llethol i lawer, felly rydym wedi ceisio gwneud y cwrs hwn mor syml a rhyngweithiol â phosibl. Mae’n helpu gweithwyr allweddol i ddod o hyd i wybodaeth iechyd o ansawdd ar-lein, ac yn eu cyfeirio at y goreuon ar gyfer eu cleifion a defnyddwyr eu gwasanaethau o ran offer ac adnoddau ar-lein ac apiau.
“Yn y pen draw, rydym am i’r cwrs hwn fod yn gam iddynt ddod yn hyrwyddwyr digidol ar gyfer eu sefydliad, pan fyddant yn gallu helpu eraill i ymgysylltu â thechnolegau digidol fel eu bod yn cael y budd mwyaf o’r cyfleoedd a ddarperir i newid bywyd.”
Mae Cymunedau Digidol Cymru – Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn brosiect gan Lywodraeth Cymru a gyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Mae staff Cymunedau Digidol Cymru, sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru yn darparu cymorth pwrpasol i sefydliadau er mwyn eu helpu i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu strategaethau a’u harferion. Mae’r tîm hefyd yn cydlynu amrywiaeth o fentrau gwirfoddoli i gynyddu gwaith gwirfoddol ym maes sgiliau digidol sylfaenol, a hynny ledled Cymru.
*Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr Digidol Digital Unite yn llwyfan dysgu ar-lein arobryn sy’n hyfforddi ac yn cefnogi pobl i ddod yn Hyrwyddwyr Digidol hyderus. Mae’n cyfuno hyfforddiant a datblygiad â gwaith rheoli prosiectau, ac mae ganddo dros 20 o gyrsiau ar-lein, cannoedd o adnoddau, ac offer monitro ac adrodd hawdd eu defnyddio. Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn rhan o’r Rhwydwaith oddi ar fis Rhagfyr 2017, gyda thua 275 o Hyrwyddwyr Digidol yn cefnogi sefydliadau a’u timau rheng flaen ledled y wlad.