£800k er mwyn helpu pobl agored i niwed i allu cysylltu â gwasanaethau hanfodol ac anwyliaid o hyd yn ystod pandemig Covid-19
Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi £800k o gyllid i ddarparu dyfeisiau digidol i gartrefi gofal, wardiau ysbyty a hosbisau er mwyn i bobl allu defnyddio gwasanaethau fideo-ymgynghori meddygol, gan gynnwys apwyntiadau meddygon teulu, a'u helpu i gysylltu ag anwyliaid yn ystod y cyfyngiadau symud presennol.
Caiff y cyllid ychwanegol ei fuddsoddi er mwyn cefnogi rhaglen bresennol Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sy’n darparu dyfeisiau, hyfforddiant a chymorth i gyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru nad ydynt eisoes ar-lein.
Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i’r rhaglen, a gaiff ei gweithredu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, ddosbarthu mwy na 1,000 o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal a wardiau ledled Cymru. Bydd hefyd yn galluogi tîm cynhwysiant digidol y rhaglen i ddarparu cymorth a hyfforddiant o bell i weithwyr allweddol ar sut i ddefnyddio a gweithredu’r dechnoleg gyda’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Y byrddau iechyd fydd yn gyfrifol am ddosbarthu’r dyfeisiau gan mai nhw sy’n gwybod ble mae eu hangen yn eu hardaloedd. Ni fydd pobl na sefydliadau yn gallu gwneud cais uniongyrchol gan fod nifer y dyfeisiau yn gyfyngedig.
Diolch i’r cyllid hwn, bydd preswylwyr a chleifion yn gallu cael ymgyngoriadau o bell â’u meddygon teulu a darparwyr gofal iechyd eraill. Un o fanteision eraill y dyfeisiau newydd yw y bydd pobl yn gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd ac yn rhoi hwb hanfodol i deuluoedd ledled Cymru.
Ar yr un pryd â’r buddsoddiad hwn, cyhoeddwyd £2.8m o gyllid ychwanegol i ehangu trefniadau fideo-ymgynghori i bob gwasanaeth gofal eilaidd a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys Nyrsys Cymunedol, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd a Bydwragedd Cymunedol. Ym maes Gofal Eilaidd, mae’n cynnwys clinigau i gleifion allanol a chlinigau diabetes. Bydd y system hon yn galluogi gwasanaethau allweddol i gynnal cyswllt gweledol â chleifion, sy’n arbennig o bwysig i rai gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd ehangu’r gwasanaeth yn golygu y gall pobl gadw eu hapwyntiadau meddygol allweddol, ond gan barhau i gadw pellter cymdeithasol.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae iechyd corfforol ac iechyd meddwl y genedl yn un o’n blaenoriaethau pennaf. Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y bydd rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn gallu parhau i gael apwyntiadau meddygol heb wynebu risg. Bydd yr arian hwn hefyd yn helpu i gefnogi llesiant unigolion; gall cael cysylltiad rhithwir ag anwyliaid wneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd meddwl pobl. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i deulu a ffrindiau nad ydynt yn gallu ymweld.”
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn gweithredu rhaglenni cynhwysiant digidol yng Nghymru ers 2005 gyda’r nod o sicrhau bod gan bobl y sgiliau a’r hyder i fynd ar-lein. Dywedodd Lara Ramsay, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:
“Mae pob un ohonom yn cefnogi aelodau o’n teulu a ffrindiau sy’n agored i niwed cystal ag y gallwn yn ystod yr argyfwng presennol ac mae’n siŵr bod llawer ohonom yn eu helpu i gysylltu ag eraill drwy dechnoleg ddigidol. Mae’n bwysig iawn i ni sicrhau bod pobl nad ydynt erioed wedi bod ar-lein yn meddu ar y sgiliau i ddefnyddio dyfeisiau digidol yn ddiogel ac yn hyderus.
“Bydd y cyllid hollbwysig hwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi rhaglen Cymunedau Digidol Cymru i ddarparu dyfeisiau digidol i ddarparwyr gofal allweddol er mwyn i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt allu cysylltu ag eraill a chael gafael ar wasanaethau iechyd hanfodol yn ystod y pandemig hwn.”