Dathlu cynllun peilot Cyfeillion Digidol mewn Sioe Arddangos Arloesedd yn y Senedd
Cynllun gwirfoddoli digidol arloesol Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yw un o’r prosiectau a fydd yn cael sylw mewn Sioe Arddangos Arloesedd yn y Senedd ddydd Iau 16 Ionawr 2020.
Bydd Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn mynychu’r digwyddiad, yn ogystal ag uwch arweinwyr o fyrddau iechyd ledled Cymru.
Bydd Sioe Arddangos Arloesedd Bevan yn cynnwys cyflwyniadau gan brosiectau sydd wedi cymryd rhan ym menter Esiamplau Bevan, sef rhaglen sy’n cefnogi byrddau iechyd a sefydliadau partner i brofi datrysiadau arloesol sy’n gwella deilliannau iechyd a lles.
Dewiswyd Cyfeillion Digidol fel un o Esiamplau Bevan 2019. Amlygodd y prosiect bobl hŷn nad oedd ganddynt hyder na sgiliau digidol, cyn recriwtio ffrind neu berthynas i fod yn Gyfaill Digidol iddynt. Rhoddwyd arweiniad i’r cyfeillion i’w helpu nhw i gefnogi eu ffrindiau / perthnasau. Dros gyfnod o nifer o fisoedd, helpodd y cyfeillion iddynt fagu hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd digidol.
Mae allgáu digidol yn her iechyd cyhoeddus sylweddol. Wrth i wasanaethau digidol barhau i drawsnewid, mae perygl y bydd y rhai a allai elwa fwyaf o’r chwyldro iechyd digidol gael eu gadael ar ôl.
Dywedodd adroddiad Cynhwysiant Digidol yn Iechyd a Gofal Cymru: “Y rhai sydd fwyaf angen iechyd a gofal sydd leiaf tebygol o fod ar-lein. Tra bod defnyddwyr trymaf y gwasanaethau iechyd a gofal yn aros oddi ar-lein, ni fydd buddion y chwyldro iechyd digidol yn cael eu gwireddu.”
Diffyg diddordeb, cymhelliant ac ymddiriedaeth yw’r prif resymau sy’n atal pobl rhag mynd ar-lein. Mae gan nifer o bobl bryderon am breifatrwydd a diogelwch. Y ffordd orau o oresgyn y pryderon hyn yw trwy gymorth personol gan rywun y maen nhw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddynt – hynny yw, Cyfaill Digidol.
Cyflwynwyd cynllun peilot Cyfeillion Digidol gan Gymunedau Digidol Cymru a dau bartner, sef Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, hyfforddwyd 15 Cyfaill Digidol, sydd bellach yn cyflawni eu rolau, tra bod 40 arall wedi cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant. Hyfforddwyd 34 Cyfaill Digidol yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd bellach yn cyflawni eu rolau, gydag 20 arall wedi cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant.
CJ oedd un o’r Cyfeillion Digidol a gwblhaodd yr hyfforddiant. Mae CJ wedi bod yn ymweld â menyw a oedd yn eithaf cyfarwydd â’r rhyngrwyd ac a oedd yn gallu gadael ei chartref ar ei phen ei hun. Fodd bynnag, oherwydd ei hiechyd meddwl a diffyg hyder, nid oedd hi eisiau gadael ei chartref yn ystod rhai o’r ymweliadau cyfeillio. Yn ystod yr amser hwn, cyflwynodd CJ y llechen a’r syniad o edrych ar bynciau diddorol ar y rhyngrwyd. Nid oedd y fenyw wedi defnyddio llechen o’r blaen, felly roedd hwn yn gyfle delfrydol i’w chynorthwyo hi i ddysgu mwy am y math hwn o dechnoleg. Gyda’i gilydd, defnyddiwyd y llechen i edrych ar nifer o bethau gwahanol, er enghraifft, cynlluniau gardd oherwydd roedd gwaith yn cael ei wneud ar ei gardd hi. Rhoddodd hynny berthnasedd i’r pwnc, yn ogystal â rhoi cyfle iddi archwilio syniadau a chreadigrwydd. Yn ogystal, edrychon nhw ar leoedd yr hoffai hi ymweld â nhw yn y dyfodol a lleoedd y mae hi’n mwynhau ymweld â nhw ar hyn o bryd. Gwnaeth hynny iddi deimlo fel petai’n teithio heb adael ei chartref. Yn ogystal, rhoddodd syniadau iddi am deithiau’r dyfodol. Yn ystod sesiwn arall, edrychon nhw ar anifeiliaid anwes oherwydd roedd ganddi ddiddordeb mewn prynu cath. Defnyddiodd y llechen i wirio oriau agor y siop anifeiliaid anwes leol, cyn i’r ddau ohonynt ymweld â hi. Magodd y fenyw hyder o ran defnyddio’r llechen ac mae hi bellach yn ystyried prynu un.
Mae model Cyfeillion Digidol wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran helpu’r rheiny sydd fwyaf amharod i fynd ar-lein i oresgyn eu pryderon ac ymgysylltu â thechnoleg ddigidol. Bellach, mae’n cael ei gyflwyno gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru trwy raglen Cymunedau Digidol Cymru.