Cydweithio yw’r ateb o hyd i helpu pobl hŷn i fynd ar-lein yng Nghymru
Fel partner Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, mae’r Good Things Foundation wedi bod yn arddangos llwyddiannau cynhwysiant o amgylch y wlad.
Gan Jenny Sims
Pan ddeffrais i gyda’r wawr i ddal trên o Gaerdydd i Lundain ar gyfer cynhadledd ddiweddar o’r enw Digital Evolution: Happier, Healthier, Better off, roedd y ddau ddieithryn cyntaf y siaradais i â nhw dros y cinio bys a bawd… yn dod o Gaerdydd!
Ffawd! Roedd un ohonyn nhw’n gweithio i Lywodraeth Cymru, a’r llall i’r Big Issue. Mae’n siŵr na fyddwn i wedi cwrdd â’r un ohonyn nhw gartref. Ond, diolch i’r Good Things Foundation (GTF), fe wnes i.
Rhwydweithio yw un o brif atyniadau cynadleddau blynyddol GTF yng Nghanolfan BT, Llundain. Eleni, yn ei nawfed flwyddyn, daeth dros 100 o gynrychiolwyr ynghyd o lywodraethau, y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, a sefydliadau eraill o bob cwr o’r DU.
Fel un o’r ‘cywion newydd’, fe es i er mwyn cael syniadau ar gyfer ymgyrch y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol yn bennaf, i helpu i annog mwy o’i filiwn o aelodau i fynd ar-lein a phontio’r rhaniad digidol.
Mae llawer o fentrau cyffrous ar waith ledled y wlad. Ond er bod llawer o gymorth ar gael, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dweud bod 11% o bobl yn parhau i fod wedi’u hallgáu yn ddigidol, ac nid yw 51% o bobl 75 oed a hŷn yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Un o’r rhwystrau yw diffyg ysgogiad. Mae rhai yn dweud nad ydyn nhw eisiau mynd ar-lein oherwydd ni allant weld sut y byddai’n berthnasol i’w bywydau. Weithiau, mae hyn yn esgus gan y rheiny nad ydynt yn dymuno cyfaddef eu diffyg hyder, neu’n meddwl nad ydynt yn gallu fforddio naill ai’r ddyfais TG neu fynediad i ryngrwyd ddiwifr. Felly, sut gallwn ddenu’r grŵp heriol hwn?
Cyngor syml Pete Nuckley, sef Uwch-ddylunydd Gwasanaethau GTF, yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gair ‘digidol’. Mae’n gallu codi ofn ar bobl a’u drysu. Anogwch nhw i ddod trwy’r drws yn gyntaf, p’un a yw hynny’n ganolfan gymunedol, yn llyfrgell, yn gaffi neu’n rhywbeth arall. Tawelwch eu meddyliau a gwnewch iddyn nhw deimlo’n gyfforddus ynghylch siarad â chi cyn ceisio darganfod sut gellir eu helpu. Yna, dangoswch iddyn nhw sut i wneud hynny ar y sgrin, p’un a yw hynny ar ffôn, llechen gyfrifiadurol, cyfrifiadur neu deledu.
Dyma y mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi’i wneud ers iddi ddechrau cynnal mentrau cynhwysiant digidol dros ddegawd yn ôl, a Chymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw’r prosiect Llywodraeth Cymru diweddaraf y mae’n ei gyflenwi. Mae’n ddull sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Roedd hyn yn deillio o’r hyfforddwr, Paul Davies, sydd, gyda’i wraig Sue, yn rhedeg Destinations@Saltburn, sef canolfan adnoddau ar-lein a chymunedol yn Teeside.
Rhannwyd llawer o straeon ysbrydoledig o lwyddiannau cynhwysiant digidol trwy gydol y dydd, gan gynnwys prosiectau arloesol ledled dinasoedd fel cynllun benthyca llechi cyfrifiadurol Llyfrgelloedd Leeds – sef y mwyaf yn y DU. (Lansiodd Cymunedau Digidol Cymru gynllun tebyg ym Mro Morgannwg yn ddiweddar gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill, sy’n benthyca iPads i’w aelodau yn yr un modd â benthyca llyfrau).
Esboniodd Jason Tutin, sy’n arwain rhaglen cynhwysiant digidol “100% Digital Leeds” ar hyn o bryd, eu bod nhw wedi dechrau ar raddfa fach. Roedden nhw’n benthyca llechi cyfrifiadurol ac yn darparu hyfforddiant i bobl heb sgiliau digidol a/neu ddim yn gallu fforddio rhai. Wrth i hyder pobl dyfu, roedd rhai ohonynt yn eu dychwelyd ac yn prynu eu dyfeisiau eu hunain. Roedd tystiolaeth o ganlyniadau yn denu mwy o gyllid.
Rhoddwyd enghreifftiau o bobl yn eu hwythdegau a’u nawdegau, a gafodd eu hyfforddi i fynd ar-lein, yn dod yn hyfforddwyr gwirfoddol eu hunain. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant wedi’i brofi gyda’r Hyrwyddwyr Digidol.
Mae Cymunedau Digidol Cymru wrthi’n gweithio i dyfu’r llwyddiannau hyn, yn yr un modd â GTF – sy’n helpu cymunedau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dywed Helen Milner OBE, sef Prif Weithredwr y sefydliad: “Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn mynd i’r afael â hyn – y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.”
Mae Peter Estin, sef Cadeirydd Future.now – sef cynghrair sgiliau digidol a lansiwyd ar 10 Hydref sy’n ceisio ‘grymuso’r DU i ffynnu mewn oes ddigidol’ – yn dweud bod hyn yn galw am feithrin cynghreiriau nad ydynt yn canolbwyntio ar Lundain a rhoi pwysau ar lywodraethau i sefydlu polisïau cynhwysiant digidol cydgysylltiedig. Mae GTF a Chymunedau Digidol Cymru yn bartneriaid Future.now.
Mae Jenny Sims yn newyddiadurwr llawrydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Hefyd, mae’n gadeirydd ar Weithgor Allgáu/Cynhwysiant Digidol y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol ac yn gydgadeirydd ar Gyngor 60+ Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr. Gallwch ei dilyn ar Twitter: @Jenny__Sims