Rhaglen newydd sy’n anelu at helpu iechyd meddwl pobl ifanc ar-lein
Yn ddiweddar, lansiwyd rhaglen iechyd meddwl newydd o'r enw #RESET gan Nominet, y cwmni sy'n gwneud elw â phwrpas ac sy'n gweithredu wrth galon seilwaith y Rhyngrwyd. Mae'r rhaglen yn anelu at gynyddu cwmpas ac effaith gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc.
Mae gweithgarwch Nominet er budd y cyhoedd yn cynnwys gwella miliwn o fywydau, a bydd yn darparu grantiau gwerth dros £500,000 ledled rhai o brif elusennau iechyd meddwl ac elusennau ieuenctid y Deyrnas Unedig, a hynny er mwyn darparu cymorth ar gyfer dros hanner miliwn o bobl ifanc y flwyddyn.
Mae’r sefydliadau a fydd yn cael cyllid rhaglen #RESET Nominet yn cynnwys The Mix, Chasing the Stigma, YoungMinds, stem4, Cymdeithas Nightline, Barnardo’s a Chanolfan Genedlaethol Anna Freud ar gyfer Plant a Theuluoedd. Byddant yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, a fydd yn cynnwys gwella prosesau cyfeirio ar-lein, datblygu cynnyrch digidol newydd, trawsnewid eu sefydliad yn ddigidol i ateb y galw, a chreu canllawiau ar arfer gorau i’r rheiny sy’n datblygu cynhyrchion iechyd meddwl digidol ar gyfer pobl ifanc.
Mae’r rhaglen yn dilyn ymchwil Nominet i Elusennau, Pobl Ifanc a gwasanaethau Iechyd Meddwl Digidol, gweithgaredd helaeth i fapio’r sector, a digwyddiad ar gyfer panel o arbenigwyr. Roedd y broses ddarganfod hon wedi nodi heriau allweddol: y pwysau cynyddol ar y gwasanaethau iechyd meddwl, y sianeli cynyddol ddigidol y mae pobl ifanc yn eu defnyddio i chwilio am gymorth a gwybodaeth, a’r gorgyffwrdd lleiaf sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng sefydliadau dibynadwy sy’n darparu cynhyrchion digidol a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc. O ganlyniad, mae Nominet wedi penderfynu ffocysu ei gymorth mewn nifer o feysydd allweddol: cefnogi elusennau cenedlaethol yn uniongyrchol i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl digidol, cefnogi’r broses o wella ansawdd ledled y gwasanaethau y maent yn eu cynnig, yn ogystal â gwella prosesau cyfeirio ar gyfer pobl ifanc.
Dywedodd Eleanor Bradley, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebion Cofrestru a Budd y Cyhoedd yn Nominet: “Mae’r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac, ar yr un pryd, mae’r sianeli y mae pobl ifanc yn eu defnyddio i chwilio am gymorth wedi mudo i faes digidol. Dangosodd ein hymchwil fod llawer o’r elusennau arbenigol sy’n cynnig cymorth targededig ar gyfer anghenion penodol pan fo pobl ifanc yn fwyaf agored i niwed, mewn perygl o fod ar ei hôl hi’n ddigidol, neu fod arnynt angen help i gynyddu’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig, ac rydym am gefnogi’r sefydliadau hyn i fod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth iechyd meddwl digidol. Yn rhan o’n hymrwymiad i fudd y cyhoedd, a chyda ffocws ar lywio mentrau newydd sy’n hyrwyddo cysylltedd, cynhwysiant a diogelwch cynyddol ar-lein, credwn y bydd ein rhaglen gyllido newydd, #RESET, yn cynnig help y mae galw mawr amdano – yn ei hanfod, yr adnodd i ailosod y system cymorth iechyd meddwl – a hynny yn y mannau lle mae ei angen.”
Dywedodd Chris Martin, Prif Swyddog Gweithredol The Mix: “Rydym wedi gweld cynnydd arswydus yn nifer y bobl ifanc sy’n cysylltu â ni ynghylch eu hiechyd meddwl, felly rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gyda rhaglen iechyd meddwl Nominet, #RESET, i raddio effaith The Mix ar lesiant meddwl. Gyda help Nominet, byddwn yn datblygu ein hofferyn brysbennu i greu rhagor o bwyntiau atgyfeirio gweithredol yn y mannau digidol lle mae’r bobl ifanc yn ymgynnull, yn dyfnhau’r defnydd o’n cymuned cymheiriaid, ac yn gwella’r broses gyfeirio o’n gwasanaethau ar-lein a llinell gymorth, a hynny er mwyn creu gwell teithiau cymorth parhaus.”
Meddai Vanessa Longley, Cyfarwyddwr Datblygu gyda YoungMinds: “Rydym wrth ein bodd yn cael cymorth Rhaglen Iechyd Meddwl Nominet, #RESET. Bydd y cyllid yn helpu miloedd yn rhagor o bobl ifanc i ganfod eu ffordd, gan eu helpu i gyrchu gwybodaeth ymarferol ar-lein y gellir gweithredu yn ei chylch, a hynny pan fo arnynt ei hangen, fel y gallwn leihau nifer y bobl ifanc sydd mewn argyfwng.”
Nododd Joe Martin, Ymddiriedolwr, Cymdeithas Nightline: “Rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous ynghylch gweithio gyda Nominet yn rhan o’r rhaglen #RESET, ac yn credu’n wirioneddol y bydd y bartneriaeth yn datgloi gwasanaeth o well ansawdd sy’n cyrraedd ymhellach ar gyfer myfyrwyr ledled y Deyrnas Unedig y mae arnynt angen lle diogel i siarad am sut y maent yn teimlo.”
Dywedodd Eleanor Bradley: “Trwy weithio gyda’r sefydliadau hyn, rydym wedi canolbwyntio ein cyllid #RESET i gael effaith gadarnhaol ar gynifer o bobl ifanc â phosibl – er mwyn cyrraedd dros 600,000 erbyn mis Rhagfyr 2020 a hyd at 3 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf – a hynny gyda gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.”
Mae Rhaglen Iechyd Meddwl Nominet, #RESET, yn darparu cyllid sy’n seiliedig ar ymgynghoriad manwl â phob un o’r partneriaid cenedlaethol. Bydd pob partner yn buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu a darparu ei weithgareddau dros gyfnod o 18 mis o fis Rhagfyr 2019 ymlaen. Bydd Nominet a’i bartneriaid yn rhannu adroddiad ar effaith a dysgu bob blwyddyn er mwyn helpu eraill i archwilio rôl elfennau digidol yn y maes hwn.