Wythnos Mynd Ar-lein – Ymgyrch sgiliau digidol genedlaethol yn cael effaith ehangach yng Nghymru nag erioed o’r blaen
Mae'r ymgyrch a gaiff ei chynnal ledled y DU yn gwella sgiliau digidol ar draws y wlad – ac eleni bydd yr ymgyrch yng Nghymru yn cyrraedd mwy o gymunedau nag erioed o'r blaen.
Caiff Wythnos Dewch Ar-lein 2019 ei chynnal rhwng 14 a 20 Hydref. Caiff yr ymgyrch ei chynnal gan yr elusen ryngwladol, Good Things Foundation, a bydd miloedd o ddigwyddiadau lleol yn cael eu cynnal er mwyn helpu pobl sydd â diffyg sgiliau digidol i wneud defnydd gwell o’r rhyngrwyd – gan gynnwys ledled Cymru!
Nid oes gan 11.9 miliwn o bobl yn y DU y sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen arnynt i wneud y defnydd gorau o’r rhyngrwyd, gan olygu bod bron 30% o boblogaeth y DU yn colli cyfleoedd i fanteisio ar y rhyngrwyd, y mae nifer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol*.
Mae gwaith da wedi cael ei wneud yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ond nid yw 11% o’r wlad yn defnyddio’r rhyngrwyd o hyd**, ac maent yn fwyaf tebygol o fod yn bobl hŷn, pobl â salwch hirdymor cyfyngol neu anableddau, a phobl ddi-waith. Dyma’r bobl a allai elwa fwyaf ar y rhyngrwyd, gan olygu bod Wythnos Dewch Ar-lein yn bwysicach fyth.
Yn ffodus, mae Wythnos Dewch Ar-lein – sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn ar ddeg – yn cyrraedd mwy o gymunedau yng Nghymru nag erioed o’r blaen, yn dilyn buddsoddiad gan Gymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sef prosiect Llywodraeth Cymru a gaiff ei gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Dywedodd Lara Ramsay, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol, Canolfan Cydweithredol Cymru: “Fel prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae’n wych bod ‘Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles’ yn un o gefnogwyr swyddogol Wythnos Dewch Ar-lein. Rydym yn cefnogi sefydliadau drwy ein gwaith er mwyn helpu mwy o bobl i fanteisio ar dechnoleg ddigidol yn ein cymunedau. Mae llawer o fanteision i’r rheini sy’n cael cymorth i fynd ar-lein, megis ymdopi â’u hiechyd a’u lles, gwneud cais am swyddi, dysgu sgiliau newydd, arbed arian a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.”
Yn sgil y cymorth hwn, bydd nifer o sefydliadau ar lawr gwlad yng Nghymru yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain ar gyfer Wythnos Dewch Ar-lein, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae canolfannau gwaith, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, awdurdodau lleol a chanolfannau gofal dydd ymhlith y rheini sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch. Caiff Wythnos Dewch Ar-lein ei chynnal gan y Good Things Foundation, sef elusen ryngwladol sy’n gweithio i sicrhau bod pawb yn cael budd o dechnoleg ddigidol.
Yn ôl Helen Milner, Prif Weithredwr Good Things Foundation: “Rydym yn falch iawn bod Wythnos Dewch Ar-lein wedi helpu dros hanner miliwn o bobl yn y DU i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i fynd ar-lein ers 2007. Ond mae rhagor i’w wneud o hyd.
“Mae miliynau o bobl yn parhau i golli cyfleoedd i elwa ar yr holl fanteision o ddefnyddio’r rhyngrwyd. Dyna pam, mae Wythnos Dewch Ar-lein yn cynnal digwyddiadau ar lawr gwlad mewn cannoedd o gymunedau ledled y DU er mwyn codi proffil achosion o allgáu’n ddigidol fel mater o bwys cenedlaethol. Mae technoleg yn datblygu i fod yn adnodd hanfodol mewn bywyd pob dydd felly mae’n hollbwysig ein bod yn cydweithio i gau’r bwlch digidol.”
Os hoffech gael cymorth i gael mwy o fudd o fod ar-lein – neu os hoffech roi cymorth i rywun arall wneud hynny – gallwch ddod o hyd i’ch digwyddiad Wythnos Dewch Ar-lein agosaf yn www.getonlineweek.com. Fel arall, gallwch ffonio 0800 100 900 a gofyn am gymorth ar sgiliau digidol.
* Mynegai Digidol Defnyddwyr Lloyds Bank UK.
** Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018/2019.