Rhaglen Llywodraeth Cymru i ‘hybu hyder pobl ar-lein er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u llesiant’
Bydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2019, ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth o ran cynhwysiant digidol i sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn, pobl â salwch, anabledd neu wendid cyfyngol hirsefydlog, pobl ddi-waith neu deuluoedd sy'n agored i newid fel y gallant helpu eu cleientiaid, eu cwsmeriaid neu ddefnyddwyr eu gwasanaethau.
Bydd rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru, er mwyn helpu i gynyddu hyder pobl wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, gyda’r nod o’u helpu i wella a rheoli eu hiechyd a’u llesiant.
Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn dilyn rhaglen gychwynnol Cymunedau Digidol Cymru (CDC), a alluogodd 62,500 o bobl i fanteisio ar fynd ar-lein yn ystod y dau blynedd diwethaf.
Meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Rydym am annog mwy o bobl i fynd ati i gymryd rhan weithredol yn eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, a bydd cefnogi pobl i fod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol yn helpu i roi’r sgiliau iddynt er mwyn gwneud hyn. Rydym yn ariannu Canolfan Cydweithredol Cymru i wneud y gwaith hwn drwy ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.
Mae Cymunedau Digidol Cymru eisoes wedi gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau. Gyda’i gilydd, maent wedi cefnogi pobl i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol megis llechi, ffonau clyfar, pensetiau realiti rhithwir, tracwyr gweithgarwch a dyfeisiau adnabod llais.
Mae mwy na thair mil o blant a phobl ifanc wedi cael eu hyfforddi i gefnogi pobl hŷn mewn cartrefi gofal ac ysbytai i ddefnyddio technoleg ddigidol drwy fenter Arwyr Digidol a ddatblygwyd gan Cymunedau Digidol Cymru. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel rhan o Cymru Iachach, sef ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18, nid yw 15% o oedolion (16 oed a hŷn) yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn llawer uwch (26%) ymhlith pobl sydd â salwch, anabledd neu wendid cyfyngol hirsefydlog.
Meddai Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae technolegau a dulliau digidol newydd o weithredu yn rhan bwysig o’n trefn system gyfan yn y dyfodol o dan ein strategaeth Cymru Iachach. Heddiw, mae niferoedd mawr o apiau a gwefannau defnyddiol y gall pobl eu defnyddio i gael gafael ar wybodaeth am iechyd, cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, monitro cyflyrau megis diabetes a phroblemau iechyd meddwl, a goresgyn unigedd.
Bydd ein rhaglen newydd yn gweithio i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i gael gafael ar dechnoleg gynorthwyol a’i defnyddio er mwyn eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a’u gofal.”
Darperir y rhaglen newydd hon gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe, a bydd ganddi dîm o gynghorwyr a hyfforddwyr yn gweithio ledled Cymru. Drwy bartneriaethau â sefydliadau ar draws yr holl sectorau, gan gynnwys byrddau iechyd, darparwyr gofal anstatudol, awdurdodau lleol ac elusennau, byddwn yn galluogi’r bobl y maent yn eu cefnogi i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn ffordd sy’n addas i’w bywydau personol. Gall hyn gynnwys rheoli cyflyrau iechyd, lleihau unigrwydd ac unigedd a’r cyfleoedd ehangach y gall sgiliau digidol eu cynnig.
Darperir y rhaglen newydd hon gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe, a bydd ganddi dîm o gynghorwyr a hyfforddwyr yn gweithio ledled Cymru. Drwy bartneriaethau â sefydliadau ar draws yr holl sectorau, gan gynnwys byrddau iechyd, darparwyr gofal anstatudol, awdurdodau lleol ac elusennau, byddwn yn galluogi’r bobl y maent yn eu cefnogi i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn ffordd sy’n addas i’w bywydau personol. Gall hyn gynnwys rheoli cyflyrau iechyd, lleihau unigrwydd ac unigedd a’r cyfleoedd ehangach y gall sgiliau digidol eu cynnig.
Meddai Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:
Rydym yn falch o barhau â’n cydberthynas â Llywodraeth Cymru wrth gyflawni gwaith cynhwysiant digidol, sef rhywbeth sy’n ymestyn yn ôl i 2005. Gyda’r rhaglen newydd hon, bydd gennym gyfle anhygoel i adeiladu ar y gwaith presennol ym maes ‘Technoleg er Lles’, er mwyn newid bywydau pobl er gwell. Mewn cymdeithas, mae gennym yr offer ond nid yw pawb yn gwybod sut i’w defnyddio. Nhw yw’r rhai a all elwa fwyaf ar y gwaith hwn, er mwyn helpu i wella ansawdd eu bywydau.
Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant – dyma raglen gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu pobl i ymgysylltu â thechnolegau digidol er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a gaiff eu darparu a all newid eu bywydau, megis cael a chadw gwaith, cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwella eu llesiant cyffredinol. Bydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2019, ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth o ran cynhwysiant digidol i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn, pobl â salwch, anabledd neu wendid cyfyngol hirsefydlog, pobl ddi-waith neu deuluoedd sy’n agored i newid fel y gallant helpu eu cleientiaid, eu cwsmeriaid neu ddefnyddwyr eu gwasanaethau.