Braich robotig yn amlygu pa mor anhygoel y gall technoleg ddigidol fod ar gyfer pobl anabl
Gan Mark Smith, Swyddog Marchnata, Cymunedau Digidol Cymru
Roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld y cyfan, tan i mi weld y nodwedd newyddion hon gyda’r BBC:
Yn ei hanfod, dyma fraich robotig sy’n gallu bwydo rhywun sydd mewn cadair olwyn. Ddim yn eich cyfareddu? Fe ddylai wneud. Mae’r fraich ynghlwm wrth y gadair olwyn, ac mae’n defnyddio algorithmau i ganfod yr eitem o fwyd y bydd yn ei chodi. Mae’n defnyddio synwyryddion i’w helpu i godi darn o fwyd a symud y fforc at geg yr unigolyn. Mae’n anodd dychmygu’r fath beth.
Rydym wedi bod yn trafod technoleg gynorthwyol ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae enghreifftiau tebyg i’r rhain yn mynd â’r datblygiadau i lefelau hollol newydd. Mae’r rheiny sydd wrth wraidd yr Assistive Dexterous Arm (ADA) yn gobeithio y bydd yn helpu gofalwyr. Ar hyn o bryd, dim ond ffrwythau y mae’r ADA yn gallu eu rhoi i unigolyn, ond y gobaith yw y bydd yna brydau ar y fwydlen nesaf!
Rwy’n siŵr y gall sawl un ohonom gofio bwrdd hofran Marty McFly yn y ffilm Back to the Future, a’r darogan anhygoel am dechnoleg y dyfodol yn y gyfres Tomorrow’s World? Ond, a oeddech erioed wedi meddwl y byddech yn gweld rhywbeth yn debyg i hyn?
Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, anabledd, a allai rhywbeth tebyg i hyn fod o help? A oes yna gynnyrch neu ddyfais yr hoffech chi ei gweld yn cael ei dyfeisio i helpu rhywun ag anabledd penodol? Os felly, beth fyddai’r eitem honno? Gadewch i’ch dychymyg grwydro, yn yr un modd ag y mae dychymyg dyfeiswyr, sydd wedi creu cynnyrch sy’n helpu pobl heddiw, yn crwydro.
Mae’r stori hon yn fy atgoffa o’r diwrnod yr ymwelais â Scope Cwmbrân – un o gleientiaid Cymunedau Digidol Cymru. Roeddem wedi benthyca offer i’r staff, er mwyn cefnogi eu cleientiaid i fanteisio mwy ar ddyfeisiau llechen a gliniaduron – er nad oedd hyn yn ddim byd tebyg i’r fraich robotig, roedd yn hynod o ddefnyddiol serch hynny. Fe’m gwefreiddiwyd gan y modd yr oedd pobl, a oedd ag anableddau yr oeddwn yn eu hystyried yn ddifrifol, yn cael cymorth i ddefnyddio iPads er mwyn cael profiadau synhwyraidd penodol am y tro cyntaf. Roedd y profiadau hyn yn cynnwys cyffwrdd, lleferydd a chreadigrwydd, ac er y gallai’r arfer hwn ymddangos yn sylfaenol i rai pobl, roedd yn amlwg yn dod â phleser a phwrpas i’r rhai a fanteisiai arno. Roedd hefyd yn neges atgoffa gref o’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol.
Ddeng mlynedd yn ôl, nid oedd y dyfeisiau digidol yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol yn bodoli. Beth, yn eich barn chi, y gallem ei weld ymhen deng mlynedd arall a allai wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd, iechyd pobl a’r modd y mae gofal yn cael ei roi?
Os ydych yn rhan o’r sector iechyd neu’r sector gofal, ac y mae arnoch angen cymorth i annog y bobl yr ydych yn eu cynorthwyo i fanteisio ar dechnoleg ddigidol, cysylltwch â ni, a gallwn drafod y posibiliadau. Diolch i chi.
I gael rhagor o newyddion oddi ar Adran Dechnoleg y BBC, cliciwch ar y ddolen hon.