A yw technoleg ddigidol yn cynnig ffordd arloesol o ymdrin ag iechyd meddwl?
Gan Mark Smith, Swyddog Marchnata, Cymunedau Digidol Cymru
Iechyd meddwl gwael…
Mae’n effeithio ar weithleoedd, yr economi, cymunedau a theuluoedd. Gallech ddadlau ei fod yn effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd.
Mae iechyd meddwl yn gyffredinol yn cael ei drafod yn fwy nag erioed, drwy ymgyrchoedd, y cyfryngau…a’r cyfryngau cymdeithasol.
Sut mae datblygiadau modern ym maes technoleg ddigidol wedi newid y ffordd rydym yn trin iechyd meddwl, yn rheoli straen a gorbryder, yn siarad â’n gilydd am iechyd meddwl ac yn cael gafael ar wybodaeth a allai ein helpu i ddysgu mwy am yr hyn a all fod yn bwnc cymhleth?
Rwy’n teimlo fy mod yn gymwys iawn i ysgrifennu’r blog hwn.
Mae gennyf anhwylder deubegynol ac elfennau o anhwylder personoliaeth ffiniol ac rwyf wedi gweithio ym maes cynhwysiant digidol am fwy na 10 mlynedd. Rwyf wedi ennill profiad ym maes cynhwysiant drwy weithio ar raglen Cymunedau@Ei Gilydd a phrosiect Cymunedau 2.0, yr ariannwyd y naill a’r llall gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac un o brosiectau Llywodraeth Cymru, sef Cymunedau Digidol Cymru.
Rwyf wedi bod yn ymgyrchwr dros iechyd meddwl ac wedi ymwneud yn helaeth â byd y celfyddydau ac iechyd meddwl. Rwy’n frwd dros sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i reoli eu hiechyd meddwl mewn ffordd sydd mor deg â phosibl.
O gofio fy mod wedi gweithio ym maes cynhwysiant digidol am fwy na 10 mlynedd, i ba raddau y mae technoleg ddigidol wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw? Roedd Facebook, Twitter a YouTube yn dal i fod yn gymharol newydd yn 2009, roedd y ddyfais FitBit gyntaf newydd ddod ar y farchnad ac roedd y gystadleuaeth rhwng dyfeisiau Android ac iOS yn dechrau twymo, ond byddai’n rhaid aros blwyddyn arall i’r iPad gael ei ddyfeisio.
Faint o hynny sy’n peri syndod i chi, o ystyried yr hyn rydych yn ei wybod nawr a’r ffordd rydych yn defnyddio dyfeisiau a’r we heddiw? Faint o’r datblygiadau hyn sydd wedi eich helpu gyda’ch iechyd meddwl mewn rhyw ffordd?
Heddiw, mae gennym apiau a gwefannau a all ein helpu gydag amrywiaeth o bethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys siartiau hwyliau, cymunedau ar-lein a phodlediadau:
Mae Elefriends yn gymuned ar-lein, a redir gan Mind, lle y gall pobl siarad am iechyd meddwl a phethau cyffredin, mewn amgylchedd cefnogol. Mae seiberfwlio yn rhywbeth a all gael effaith andwyol ddifrifol ar iechyd meddwl pobl ifanc. Mae gwefan Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn cynnig cyngor i rieni, gofalwyr ac ysgolion.
Mae fy therapydd wedi argymell y llyfr sain ‘Counselling for Toads’ i mi, wrth i ni ddatblygu ffordd newydd o weithio. Gallaf eistedd a gwrando, gan gymryd y wybodaeth i mewn, a meddwl am sut y gellir ei rhoi ar waith. P’un a oes angen gwybodaeth arnoch yn y fan a’r lle, neu ym mhreifatrwydd eich cartref, mae podlediadau yn ffordd dda arall o gefnogi eich iechyd meddwl. A ydych wedi gwrando ar un yr hoffech sôn wrthym amdano?
Rwyf wedi defnyddio fy ffôn clyfar i greu negeseuon i’m hatgoffa pryd y dylwn gymryd fy meddyginiaeth. Rwyf wedi anghofio gwneud hynny sawl gwaith yn y gorffennol ac mae’n bosibl mai dim ond wrth i ddiwrnod gwael ddatblygu y byddwch yn canfod hynny. Gall hyn hefyd fod yn ddefnyddiol i’ch atgoffa o apwyntiadau. Collir nifer fawr o apwyntiadau mewn gwasanaethau iechyd meddwl, am resymau dealladwy ac, felly, gall y ffaith bod modd cysylltu â’ch darparwr ar-lein i ganslo neu aildrefnu apwyntiadau, helpu pawb yn y sefyllfa honno.
Rhywbeth newydd i mi yw’r ‘Big White Wall’, sef menter gymdeithasol sydd wedi helpu mwy na 76,000 o bobl, gyda gwasanaethau gan gynnwys therapi ar-lein. Mae hyn yn ddiddorol, o ystyried yr anawsterau y gall pobl eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar wasanaethau ar gyfer cwnsela a therapïau siarad eraill. A fyddech yn fodlon defnyddio rhywbeth tebyg i Facetime neu Skype i siarad â therapydd?
Mae gan ymgyrchoedd megis Amser i Newid Cymru lawer o adnoddau ar eu gwefan, er mwyn helpu i ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl. Mae hyn yn bwysig wrth fynd ati i godi ymwybyddiaeth a cheisio cymorth. Rwyf wedi defnyddio traciwr hwyliau i’m helpu i fonitro sut roeddwn i’n ymdopi ag anhwylder deubegynol. Unwaith eto, cafwyd datblygiadau ac mae rhai newydd wedi dod ar y farchnad ers hynny, felly mae’n bosibl y byddaf yn dechrau defnyddio’r ddyfais hon unwaith eto.
Mae dyfeisiau adnabod llais wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gydag Alexa Amazon Echo ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd. Felly erbyn hyn, gallwch siarad â dyfais mewn ffordd sy’n golygu y bydd yn helpu gyda’ch iechyd meddwl. Mae Mindscape yn adnodd y gallwch gael gafael arno drwy Alexa, a all eich helpu drwy bwl o banig.
Mae rheoli cyflwr iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes yn bwysig i’r rhai sy’n delio â phroblemau parhaus. Rydym wedi rhannu dim ond sampl fach o’r pethau sydd ar gael i helpu pobl gyda’u cyflwr iechyd meddwl, beth bynnag y bo, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae llawer o enghreifftiau eraill y gallwch eu harchwilio, gyda nifer ohonynt wedi’u cyhoeddi ar wefan Mind.
Felly, rwy’n dychwelyd at fy nghwestiwn gwreiddiol… A yw technoleg ddigidol yn cynnig ffordd arloesol o ymdrin ag iechyd meddwl?
I mi, yr ateb yw ydy ac nac ydy, ond ydy yn bennaf. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle prysur iawn, sy’n llawn cynnwys a all fod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol i iechyd meddwl rhywun. Os ydych yn teimlo’n fregus, mae’n bosibl nad cymryd rhan mewn dadl danbaid â grŵp o ddieithriaid fydd y peth gorau i chi. Fodd bynnag, gall gweld bod eraill yn profi pethau tebyg i chi roi tawelwch meddwl i chi.
Mae cymaint o apiau, gwefannau a dyfeisiau wedi’u creu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a all helpu pobl i ddelio â phwysau a straen bywyd bob dydd, a chyflyrau wedi’u diagnosio y gellir dadlau eu bod yn fwy difrifol eu natur. Credaf fod hyn yn cyd-ddigwydd â chyfnod mewn cymdeithas pan fo cyfraddau iechyd meddwl wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Fel mae’r dull cyffredinol o reoli eich iechyd meddwl, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi mewn perthynas â thechnoleg ddigidol. Yn ddiau nid oes un ateb i’r broblem sy’n addas i bawb, ond credaf fod rhywbeth i’r rhan fwyaf ohonom sydd, fel fi, yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl.