Neidiwch i’r prif gynnwys

Arwyr Digidol – dwy flynedd o wneud gwahaniaeth i gymunedau yng Nghymru

Gan Matt Lloyd, Rheolwr y Prosiect Cymunedau Digidol Cymru

Matt Lloyd mewn sesiwn arwyr digidol

Gan nad yw 15% o’r bobl yng Nghymru ar-lein (tua 400,000 o oedolion), cymerodd Cymunedau Digidol Cymru gam yn ôl ddwy flynedd yn ôl er mwyn asesu’r modd y gallem gynyddu nifer y bobl sy’n cefnogi eraill i fynd ar-lein. Yn ystod y cyfnod hwn o fyfyrio, aethom ati i drafod y modd y mae pobl ifanc wedi cael eu magu gyda thechnoleg a’r ffaith eu bod yn gyfarwydd iawn â dyfeisiau digidol. Po fwyaf yr oeddem yn meddwl am hyn, mwyaf yr oeddem yn sylweddoli fod yna ased cymunedol enfawr yn aros i gael ei ddefnyddio.

Aethom ati’n gyflym i ddatblygu cynllun peilot o’r enw Arwyr Digidol a chysylltu â grŵp o Geidiaid. Cafodd y merched hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru cyn mynd ati i sefydlu “Noson Ddigidol”. Aethant ati i wahodd pobl o’r gymuned i’r noswaith, lle byddai grwpiau bach o Geidiaid yn arwain ar bynciau gwahanol – siopa ar-lein, diogelwch, YouTube ac iPlayer, e-bost a Skype. Roedd yr adborth yn gadarnhaol, ac roeddem o’r farn bod yna werth mewn buddsoddi rhagor o amser yn hyn.

Pawb ar eu hennill
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a bellach mae gennym 1,250 o Arwyr Digidol ar hyd a lled Cymru, o ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, grwpiau sgowtiaid a geidiaid, gwirfoddolwyr ieuenctid yr Heddlu, a, chyn bo hir, prifysgolion.

Ychydig a wyddom y byddai’r ymateb mor gadarnhaol ac y byddai yna gymaint o alw am y prosiect. Gyda’r rhaglen Arwyr Digidol, mae pob un ar ei ennill:

  1. Mae’r Arwyr Digidol yn trosglwyddo eu sgiliau digidol, ac mae hyn yn rhoi hwb i’w hyder ac yn eu cyflwyno i’r arfer o wirfoddol yn ifanc.
  2. Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol gwerthfawr, ac weithiau yn gwneud cysylltiadau newydd, cynaliadwy.
  3. Mae’r rheiny sy’n cael cymorth yn dysgu sgìl newydd ac yn mwynhau cwmni’r gwirfoddolwyr ifanc, ac mae pob un ohonynt yn treulio amser o ansawdd yn rhannu eu straeon, eu diddordebau a’u hanesion.

Serch hynny, yr hyn sy’n wych am Arwyr yw’r canlyniadau yr ydym yn clywed amdanynt gan y bobl y mae’r Arwyr Digidol yn eu cefnogi. Gallai hyn fod mewn cartrefi gofal, mewn ward ysbyty neu mewn grŵp cymunedol. Mae Ken yn un o’r bobl hyn:

Mae Ken yn byw mewn cartref gofal yn Nhredegar, ac mae’n bywiogi pan fydd yr Arwyr Digidol yn ymweld. Daeth yr Arwyr Digidol i wybod bod Ken yn hoff iawn o drenau colli cylla, felly aethant ati i lwytho ap trên colli cylla ar y benwisg rhith-wirionedd yr oedd Cymunedau Digidol Cymru wedi ei benthyg i’r cartref gofal.

Roedd wrth ei fodd; mae gŵr, a oedd gynt yn bryderus yn aml, wrth ei fodd yn cael cymorth ac ymwneud â’r disgyblion, ac maent hwythau wrth eu bodd yn ei weld ef. Mae Ken wedi dechrau defnyddio’r dabled ers hynny, ac mae wedi prynu chwaraewr MP3 er mwyn iddo allu mwynhau’r gerddoriaeth y mae’n ei hoffi. Wrth gwrs, nid yw’n ymwneud yn unig â chefnogaeth ddigidol, bydd y disgyblion hefyd yn nodi ei hoff adar, ac yn ei helpu i ail-fyw ei hoffter o rasio colomennod. Mae hyn wedi arwain at wahoddiad gan y cartref gofal i’r ysgol ddod i mewn i ryddhau colomennod mewn dathliad diwedd tymor o’r berthynas sydd wedi datblygu rhwng y trigolion a’r disgyblion.

Yn achos Ken a nifer o bobl eraill, mae’r Arwyr yn holi cwestiynau ac yn raddol yn meithrin perthynas gyfeillgar â’r bobl y maent yn eu cefnogi. Mae yna lawer o straeon eraill am bobl sydd wedi elwa ar y rhaglen, ac mae’r momentwm yn cynyddu yng Nghymru a’r tu hwnt.

Cyfleoedd
Os oed gennych chi a’ch ysgol ddiddordeb mewn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i hyfforddi eich disgyblion i fod yn Arwyr Digidol, cysylltwch â ni.